Ers i’r Tabernacl gael ei agor fel canolfan i’r Celfyddydau Perfformio ym 1986, mae Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth wedi goruchwylio cyfres o ddatblygiadau ac addasiadau i’w hadeiladau. Mae’r rhain yn cynnwys ein saith oriel gelf sydd bellach yn Adeilad Ellis, Adeilad Owen Owen a’r Hen Danerdy, yn ogystal â’r Tŷ Brenhinol hanesyddol.

Llwyddwyd i brynu’r diweddaraf o’r datblygiadau hyn, adeilad Glasfryn, a saif wrth ymyl yr orielau, yn 2016 gyda’r bwriad o’i droi’n storfa ddiogel a gwell i weithiau celf yng Nghasgliad cynyddol y Tabernacl.

Mae storfa fodern wedi’i neilltuo i weithiau celf yn allweddol i ddyfodol Casgliad y Tabernacl. Wrth i’r casgliad barhau i dyfu, mae ein storfa bresennol yn mynd yn orlawn a chyn bo hir mae yna berygl na fydd modd i ni storio’r holl weithiau celf yn ddiogel.

Y Casgliad

Mae Casgliad y Tabernacl o dros 400 o weithiau’n canolbwyntio’n bennaf ar artistiaid yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn yr 20fed a 21ain ganrif, gydag ambell eithriad megis portread gan Augustus John a gweithiau ar bapur gan Stanley Spencer a Percy Wyndham Lewis. Ymhlith yr artistiaid pwysig o Gymru dan sylw mae:

• Cefyn Burgess
• Peter Edwards
• James Dickson Innes
• Shani Rhys James
• Peter Prendergast
• Kevin Sinnott
• David Tress
• Syr Kyffin Williams.

Cnewyllyn Casgliad y Tabernacl yw casgliad preifat bach a drosglwyddwyd i Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth ym 1986. Ers hynny, cafwyd ychwanegiadau drwy Gymynrodd Nora Gibbs a Mollie Winterburn; Cymynrodd John Davies; Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru a llawer o roddwyr ac artistiaid unigol.

Apêl Glasfryn – Cyfnod 2

Ar ôl cael ei brynu yn 2016, golygai ymgyrch llwyddiannus i godi arian y gellid gwneud gwaith i ddiogelu’r tu allan i’r adeilad. Ar yr un pryd, cryfhawyd sylfeini’r llawr isaf er mwyn gosod rhestlau proffesiynol a rhoddwyd grisiau yn eu lle.

Yn rhan dau o’r prosiect, rydym bellach yn edrych i godi £200,000 i gwblhau’r storfa. Bydd yr arian a godir yn helpu i:

• Gosod y rhestlau proffesiynol ar gyfer gweithiau celf
• Ychwanegu’r nodweddion diogelwch angenrheidiol o gwmpas y tu allan i’r adeilad
• Gosod gwres, goleuadau, offer trydanol, lloriau a systemau larwm

Helpwch ni i ddiogelu dyfodol Casgliad y Tabernacl drwy roi i’r ymgyrch yma heddiw.

Bydd pob rhodd, mawr a mân, yn helpu i gadw’r casgliad pwysig hwn i’r cenedlaethau a ddêl.

Gŵyl Machynlleth

Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Machynlleth, ein dathliad blynyddol o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig a rhyngwladol.

Cael gwybod mwy