Ein Gofodau

P’un a ydych yn edrych i hyrwyddo cyngerdd neu gynnal cynhadledd, mae ein detholiad o wahanol ofodau yn golygu bod gynnon ni’r lle perffaith i chi.


Ar gael

Cliciwch am fwy o wybodaeth

Cyngherddau a Pherfformiadau

Gydag acwsteg berffaith, llwyfan uchel a bar ac ystafelloedd gwisgo gerllaw, y dewis delfrydol yw Awditoriwm y Tabernacl ar gyfer cyngherddau, datganiadau, darlleniadau, perfformiadau dawns a dramâu. Os ydych yn edrych i gyflwyno perfformiad mwy agosatoch, allwch chi ddim curo ein horielau.

Darlithoedd, Dosbarthiadau a Chynadleddau

O ddosbarthiadau a chyfarfodydd bach i ddarlithoedd mwy o faint, mae ein Hystafell Werdd, Stiwdio Gelf ac Awditoriwm yn cynnig amrywiaeth o leoedd i chi ddewis ohonynt. Gellir hefyd logi ein gofodau fel pecyn, gydag arlwyo ar gael o’r Siop Goffi, sy’n golygu mai dyma’r lle delfrydol ar gyfer diwrnodau astudio a chynadleddau.

Stiwdio Greadigol a Gofod Gweithdai

Os oes angen stiwdio arnoch ar gyfer eich gwaith creadigol, neu rydych yn edrych i gynnal gweithdy neu ddosbarth celfyddydol, mae ein Stiwdio Gelf yn cynnig rhywle golau gyda digon o le sydd ar gael i’w logi fesul awr, hanner diwrnod, neu ddiwrnod llawn ar gyfraddau fforddiadwy iawn.

Sesiynau Ymarfer a Dosbarthiadau Cerdd

Mae ein hystafell gerdd yn berffaith ar gyfer gwersi cerddoriaeth un i un tra bydd y Stiwdio Gelf yn dyblu fel lle gwych i ensembles bach ymarfer. Os ydych yn chwilio am le i ensemble mawr, cwmni theatr neu grŵp dawns ymarfer, mae’r Tabernacl hefyd ar gael i’w logi.

Grwpiau Cymunedol

Ymunwch â’r grwpiau cymunedol lleol eraill sydd eisoes yn cwrdd yn y Ganolfan a llogi’r Cyntedd neu’r Ystafell Werdd ar gyfer eich cynulliadau a digwyddiadau rheolaidd. Mae byrddau a chadeiriau ar gael yn ogystal â mynediad i gyfleusterau cegin.

Ffilmio

Beth am recordio’ch fideo cerddoriaeth neu berfformiad nesaf yn y Tabernacl, neu gynnal gweithdy celfyddydol ar-lein o’r stiwdio gelf? Gyda’n cwrt agored a’r capel a’r Hen Danerdy wedi’u trawsnewid, ein horielau, stiwdio a neuadd gyngerdd yw’r gefnlen ddelfrydol i geisiadau ffilmio.

Beth sy’ ymlaen

Mwynhewch gyngherddau, sgyrsiau, dramâu a digwyddiadau llenyddiaeth yn yr unig ganolfan ym Machynlleth sydd wedi’i neilltuo’n arbennig i gyngherddau.

Pori digwyddiadau