Dewch draw i’n gweld ni

Ymdrwythwch mewn arddangosfeydd ar draws ein saith oriel gelf. Gwrandewch ar gerddoriaeth hardd a chrwydro o gwmpas y Tabernacl – ein neuadd gyngerdd mewn hen gapel sydd wedi’i drawsnewid. Tretiwch eich hun i deisen flasus yn ein caffi neu anrheg o’r siop – mae yna ddigon i chi ei ddarganfod a’i fwynhau ym MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth.

Amserau Agor

Dydd Llun: Ar Gau
Dydd Mawrth: 10yb – 4yp
Dydd Mercher: 10yb – 4yp
Dydd Iau: 10yb – 4yp
Dydd Gwener: 10yb – 4yp
Dydd Sadwrn: 10yb – 1yp
Dydd Sul: Ar Gau

Does dim apwyntiadau rhagor, felly dewch draw.

Beth i'w wneud


Cyrraedd

Cewch hyd i ni ar ganol tref farchnad hanesyddol Machynlleth yn Nyffryn Dyfi. Fe’n lleolir yn Heol Penrallt (A487) nid nepell o glocdwr enwog Machynlleth, wrth anelu am Aberdyfi.

Ar y trên

Saif MOMA a’r Tabernacl lai na phum munud o waith cerdded o orsaf drenau Machynlleth. Wrth gyrraedd ar y trên, trowch i’r chwith i’r briffordd a chyn bo hir byddwch yn ein gweld ar ochr chwith y ffordd toc cyn i chi gyrraedd y cloc.

Fe orwedd Machynlleth ar brif lein Rheilffordd y Cambrian ar draws canolbarth Cymru, gyda gwasanaethau i Amwythig (gan gysylltu â Birmingham ac Euston, Llundain), Aberystwyth a Phwllheli

Ar y Bws

Mae Machynlleth yn cael ei wasanaethu gan rwydwaith o fysiau lleol a rheolaidd sy’n teithio rhwng Bangor, Aberystwyth, Tywyn a’r Drenewydd.

Mewn Car

Saif MOMA a’r Tabernacl ar yr A487, Heol Penrallt, sy’n rhedeg drwy ganol Machynlleth. Y man parcio agosaf yw’r maes parcio cyhoeddus ar Heol Maengwyn (A489). Mae’r troad i hwn ychydig bellter ar hyd Heol Maengwyn ar yr ochr dde wrth deithio i ffwrdd o’r clocdwr. Mae parcio am ddim ar fin y ffordd hefyd ar gael o gwmpas Machynlleth, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd sylw o’r cyfyngiadau amser sy’n berthnasol i’r mannau hyn.

Mwy o wybodaeth ddefnyddiol

Dewch am Dro i’n Caffi

Mwynhewch deisennau sy’n tynnu dŵr i’r dannedd yn ogystal â chinio ysgafn, coffi a the.

Cael gwybod mwy

Gweithiau Celf Gwreiddiol

Porwch drwy weithiau celf gwreiddiol gan artistiaid cyfoes sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Porwch yma

Dewch yn Gyfaill

Ymunwch â’n Cyfeillion heddiw am newyddion, cynigion a digwyddiadau arbennig.

Cael gwybod sut

Cefnogwch ni

Helpwch ni i barhau i rannu arddangosfeydd a digwyddiadau o’r radd flaenaf.

Cael gwybod sut