I Ysgolion a Myfyrwyr

Crwydrwch ein harddangosfeydd cyfredol gyda phlant ysgol o bob oed, yn ogystal â myfyrwyr oed Safon Uwch a phrifysgol. Ar gyfer myfyrwyr hŷn a/neu astudio manylach, gallwch hefyd ofyn gweld gwaith neu weithiau penodol o Gasgliad y Tabernacl.

Mae sgyrsiau cyflwynol byr i’ch croesawu ar gael ac rydym yn annog ysgolion a myfyrwyr celf i ddod â’u deunyddiau braslunio eu hunain.

Mae llawer o’n gweithdai creadigol yn ystod y dydd yn addas i fyfyrwyr ysgol hŷn a Safon Uwch eu mynychu a datblygu eu sgiliau creadigol dan ofal amrywiaeth o artistiaid proffesiynol.

Mae ein sgyrsiau amser cinio’n addas i helpu myfyrwyr i dwrio’n ddyfnach i amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â chelf, hanes a llên ac mae ein cyngherddau’n helpu plant ysgol a myfyrwyr o bob oedran i brofi amrywiaeth o berfformiadau cerddorol.

Os mai grŵp ysgol neu grŵp o fyfyrwyr ydych chi, cysylltwch â ni bythefnos fan leiaf cyn eich ymweliad i roi gwybod i ni eich bod yn dod ac i drafod eich ymweliad yn fanylach.

Ar gyfer Teuluoedd

Dewch i grwydro’r arddangosfeydd mewn saith oriel gelf a darganfod y Tabernacl – ein neuadd gyngerdd mewn hen gapel sydd wedi’i drawsnewid. Mae’r Tabernacl yn agored i edrych o gwmpas pan na fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal – gallwch hyd yn oed fentro ar y llwyfan!

Gall plant ddifyrru eu hunain gyda’r gweithgareddau lliwio sydd ar gael yn yr orielau. Gallwch ddarganfod amrywiaeth o fosaigau, hongiadau wal, paentiadau a cherfluniau o’r Casgliad sydd ar ddangos yn barhaol o gwmpas ein hadeiladau mewn corneli cudd drwy godi arweiniad i’r arddangosfeydd wrth gyrraedd.

Mae gynnon ni gaffi, siop, lifftiau a chyfleusterau newid babanod. Gweler hefyd beth sy’ ymlaen ar gyfer ein gweithdai a digwyddiadau diweddaraf sy’n addas i’r teulu.

Ymweliadau Grŵp

Rydyn ni’n estyn gwahoddiad cynnes i grwpiau i ymweld â MOMA a’r Tabernacl. Gyda rhaglen dreigl o arddangosfeydd, a rhaglen o gyngherddau a digwyddiadau rheolaidd yn rhedeg yn gyfochrog â hon, mae yna ddigon ar gynnig drwy gydol y flwyddyn i grwpiau.

Peidiwch â phetruso rhag cysylltu â ni ymlaen llaw os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod am eich ymweliad. Os ydych mewn grŵp o 12 neu ragor neu os hoffech i ni drefnu cyflwyniad byr i’r arddangosfeydd i chi, eto cysylltwch â ni bythefnos fan leiaf cyn eich ymweliad i drefnu hyn.

Dysgu Cymunedol

O sgyrsiau amser cinio sy’n twrio’n ddyfnach i amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â chelf, hanes a llên i raglen gyson o Ddosbarthiadau Cymraeg wedi’u cyflwyno ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, a dosbarthiadau crochenwaith a bywluniadu ynghyd â gweithdai creadigol eraill, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i bawb eu mwynhau.

Siop Ar-lein

Porwch drwy ein gweithiau celf, printiau, llyfrau a chardiau cyfarch. I gyd bellach ar gael i’w prynu ar-lein

Dechrau siopa rŵan

Twrio drwy’r Casgliad

Twriwch drwy ein casgliad cynyddol o dros 400 o weithiau sy’n canolbwyntio ar artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Twriwch

Cefnogwch ni

Helpwch ni i barhau i rannu arddangosfeydd a digwyddiadau o’r radd flaenaf.

Cael gwybod sut