Nid yw MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth yn derbyn gwybodaeth am eu defnyddwyr sy’n ymweld â www.moma.cymrusy’n eu hadnabod yn bersonol oni fydd y defnyddiwr yn dewis darparu gwybodaeth o’r fath. Os bydd defnyddiwr yn ymweld â’n gwefan i ddarllen neu lawrlwytho gwybodaeth, bydd y wefan yn casglu ac yn cadw’r wybodaeth ganlynol am ymweliad y defnyddiwr:

  • Enw’r parth o ble y cyrchodd y defnyddiwr y Rhyngrwyd (er enghraifft, aol.com)
  • Y dyddiad a’r amser y cyrchodd y defnyddiwr ein gwefan
  • Y tudalennau a gyrchwyd/lawrlwythwyd o’n gwefan gan y defnyddiwr

Mae MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir at ddadansoddi ystadegol er mwyn gweithredu proses wella barhaus.

Ni fydd MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth ond yn anfon newyddion a gwybodaeth am y cwmni at y defnyddwyr hynny sydd wedi rhannu eu cyfeiriadau post neu e-bost yn benodol at ddiben derbyn gwybodaeth yn y dyfodol, h.y. ‘optio i mewn’, neu sydd wedi prynu gynnon ni neu sydd eisoes â pherthynas â ni.

Bydd unrhyw ohebiaeth drwy e-bost yn cynnwys cyfarwyddiadau i adael i’r defnyddiwr ofyn am gael ei dynnu oddi ar ein rhestr e-bostio. Ni fydd MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth yn datgelu unrhyw wybodaeth a gesglir i drydydd parti neu sefydliad a fyddai’n adnabod defnyddiwr yn bersonol.

Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth a gesglir gynnon ni ar-lein am 10 mlynedd ar ôl pa bryd y bydd yn cael ei dileu’n ddiogel.

Mae MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth yn ymrwymedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig, rydym wedi rhoi ar waith reolyddion materol, technegol a gweithdrefnol addas i ddiogelu’r wybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein.

Byddwn yn adolygu’n rheolaidd a, lle bo angen, yn diweddaru ein gwybodaeth breifatrwydd.

Os yw’n fwriad gynnon ni ddefnyddio’ch data personol at ddiben newydd, byddwn yn diweddaru ein gwybodaeth breifatrwydd gan roi gwybod am y newidiadau i unigolion cyn dechrau ar unrhyw brosesu newydd.

Mae’r GDPR yn darparu’r hawliau canlynol i unigolion:

  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i fynediad
  • Yr hawl i gywiriad
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i atal prosesu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Hawliau mewn perthynas â phenderfynu a phroffilio awtomatig.

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth a ddelir gynnon ni amdanoch chi yn anghywir neu’n anghyflawn, neu os ydych am ofyn am fanylion yr wybodaeth bersonol a ddelir gynnon ni amdanoch chi, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â ni.