Cyngherddau, sgyrsiau, dramâu a llên

Yn hen gapel wedi’i drawsnewid, mae acwsteg y Tabernacl yn berffaith ac mae’r corau pinwydd pyg gwreiddiol yn dal i fod yn eu lle (er bod clustogau wedi’u hychwanegu!). Ochr yn ochr â’n rhaglen arddangosfeydd, byddwn yn cyflwyno rhaglen o sgyrsiau a digwyddiadau celfyddydau perfformio drwy gydol y flwyddyn yn y neuadd. Gerllaw, mae’r cyntedd â’i drawstiau derw’n gartref i’r bar yn yr egwyl.

Rydyn ni hefyd yn eich annog i grwydro drwy’r Tabernacl yn ystod eich ymweliad â’r orielau. Mae’r llawr isaf a’r balconi yn agored pan na fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal – gallwch hyd yn oed fentro i’r llwyfan!

Gŵyl Machynlleth

Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Machynlleth, ein dathliad blynyddol o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig a rhyngwladol.

Cael gwybod mwy

Arddangosfeydd

Ymdrwythwch mewn gweithiau celf gan artistiaid modern a chyfoes sydd ar ddangos ar draws ein saith oriel gelf.

Pori drwy'r arddangosfeydd

Sut gallwch ein cefnogi