Y Tabernacl

Ym 1984 prynwyd y Tabernacl, hen gapel Wesleyaidd. Ar ôl gwaith adnewyddu helaeth, ailagorwyd y Tabernacl fel canolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio 11 Hydref 1986.

Yn y misoedd yn arwain at hynny, sefydlwyd Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth fel cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant a chanddi’r prif nodau canlynol:

  • Hybu addysg esthetig a gwerthfawrogiad o’r celfyddydau
  • Hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg a diwylliant Cymru
  • Cadw er budd y cyhoedd wrthrychau, adeiladau a thir o ddiddordeb artistig, hanesyddol neu bensaernïol ac yn arbennig yr hen gapel a adwaenid fel Tabernacl Machynlleth

 

Mae’r nodau uchod yn dal i fod yr un fath heddiw.

Ar y dechrau, cyfyngwyd gweithgareddau’r Tabernacl i hyrwyddo cyngherddau yn y Tabernacl. Gwnaethpwyd hyn yn bennaf drwy Ŵyl flynyddol a ddechreuodd ym mis Awst 1987 gan barhau bob blwyddyn ers hynny (ac eithrio 2020).

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth ei harddangosfa gyhoeddus gyntaf o waith Brawdoliaeth y Gwladwyr er mawr clod. Ar yr un pryd, dechreuodd yr Ymddiriedolaeth adeiladu casgliad parhaol o weithiau celf. Roedd cnewyllyn y casgliad wedi’i drosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth o gasgliad bach preifat y teulu Lambert ac ar y diwrnod yr ailagorodd y Tabernacl ym 1986, dangoswyd y paentiadau a’r lluniau hyn ar lwyfan y Tabernacl.

Bloc Ystafell Werdd

Roedd gan yr Awditoriwm newydd acwsteg berffaith ond dim gwasanaethau atodol. I ddatrys y broblem yma, adeiladwyd bloc ar wahân ar dir cyfagos oedd yn cynnwys toiledau ac ystafell werdd.

Adeilad Ellis

Ym 1988 gallodd yr Ymddiriedolaeth brynu Tŷ Harvey. Roedd yr hen siop groser yma (sydd bellach yn gartref i Ystafell y Gwladwyr ac Ystafell y Pulpud) yn darparu’r ffryntiad stryd yr oedd ei ddirfawr angen i adeilad ar y briffordd arfordirol rhwng de a gogledd Cymru.

Cymerodd bum mlynedd i ni godi’r arian i droi Tŷ Harvey yn orielau celf. Daeth rhywfaint o gefnogaeth gan y Llywodraeth drwy Fwrdd Datblygu Cymru Wledig ar ffurf grant bach ond mawr ei groeso. Ailenwyd yr adeilad yn Adeilad Ellis ar ôl Tom Ellis y Bala (oedd wedi mynegi’r gobaith y byddai capeli’n dod yn ganolfannau diwylliant ac nid addoldai ar y Sul yn unig). Cynhaliwyd yr arddangosfa gelf gyntaf ym mis Mai 1992.

Adeilad Owen Owen

Ynysoedd braidd oedd yr Awditoriwm, yr Ystafell Werdd ac Adeilad Ellis ac mewn tywydd mawr roedd yn ddigon diflas symud rhyngddynt. Doedd fawr o help i’w gael o ffynonellau swyddogol ac felly gosodwyd sylfeini ‘adeilad cyswllt’ i gysylltu’r gwahanol ofodau i ddangos beth roedd yr Ymddiriedolaeth yn ceisio ei gyflawni.

O Lerpwl y daeth yr achubiaeth yn hydref 1992 pan gynigiodd y Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau rodd o £100,000. Does dim modd gorganmol eu cyfraniad i gyllid cyfalaf a refeniw MOMA a’r Tabernacl.

Yn ei thro, ynghyd â lobïo egnïol, ysgogodd y gefnogaeth hon gan y sector preifat gyllid hael gan ffynonellau’r Llywodraeth am y tro cyntaf. Derbyniwyd grantiau gan Fenter Wledig y Swyddfa Gymreig ac o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn sgil hynny.

Cwblhawyd y gwaith adeiladu ar yr Adeilad Cyswllt (a ddyluniwyd gan David Thomas) o fewn chwe mis. Ar yr un pryd, daeth system sain a goleuo newydd, stiwdio recordio, cyfleusterau cyfieithu ar y pryd a labordy iaith i fwcl. Agorwyd yr adeilad (oedd newydd ei enwi’n Adeilad Owen Owen) 3 Gorffennaf 1994. Cyfraniad hael gan Ymddiriedolaeth Chapman oedd yn gyfrifol am y lifft toc ar ôl hynny.

Datblygu Pellach

Dros yr wyth mlynedd ganlynol, aethpwyd ati i wneud pedwar gwelliant mawr ychwanegol, pob un ohonynt yn cael ei oruchwylio gan Drysorydd Mygedol yr Ymddiriedolaeth, y Capten Richard Lambert.

Ym 1995 diddoswyd ffasâd yr Awditoriwm yn erbyn y tywydd.

Ym 1997 ailwampiwyd y fynedfa i’r Awditoriwm. Bu gwelliannau i’r blaen-gwrt i wneud y ffordd at y Tabernacl yn fwy croesawgar ac i alluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn i fynd i mewn i’r ganolfan heb gymorth. Daeth grantiau ar gyfer y cynlluniau hyn gan y Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau, Cyngor Sir Powys, CADW, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Bwrdd Croeso. Gwnaethpwyd crefftwriaeth ragorol y fynedfa newydd gan yr adeiladwr lleol, J B Roberts a’i Fab o Gorris.

Ym 1998 derbyniwyd cymynrodd wych drwy stad Nora Gibbs a Mollie Winterburn. Drwyddi fe alluogwyd yr Ymddiriedolaeth i brynu’r adeilad cyfagos, Tŷ Llyfnant a’i drawsnewid i’w ddefnyddio fel stiwdio i artistiaid ac ystafelloedd i ddysgu ac ymarfer cerddoriaeth.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, trawsnewidiwyd dwy oriel fechan ar lawr cyntaf Adeilad Ellis yn un oriel fawr (a adwaenir bellach fel Ystafell y Pulpud). Galluogwyd hyn gan gymynrodd gan y diweddar John Silvanus Davies (Mr John Davies, Y Siop Lestri) a rhodd ddienw.

Y Tŷ Brenhinol

Ar 14 Chwefror 2000 ysgrifennodd Mr Gareth W. Thomas, Swyddog Cynllunio Sir Drefaldwyn i Gyngor Sir Powys at yr Ymddiriedolaeth ynglŷn â’r cynlluniau i adfer y Tŷ Brenhinol, enghraifft brin o anedd-dy trefol o’r canol oesoedd a saif nid nepell o’r Tabernacl.

Roedd Cymdeithas Ddinesig Machynlleth a’r Cylch wedi bod wrthi’n ymgyrchu ers blynyddoedd maith dros gadw ac adfer y Tŷ Brenhinol. Ar 3 Ebrill 2000, ysgrifennodd Ruth Lambert, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth am flynyddoedd lawer a bellach Arweinydd yr Arddangosfeydd, yn ôl i gadarnhau y byddai’r Ymddiriedolaeth yn barod i ymuno â phartneriaeth gyda’r Cyngor wrth wneud y cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Cytunwyd y byddai’r Ymddiriedolaeth yn derbyn perchnogaeth o’r eiddo ar ôl ei adfer ar y telerau a nodwyd yn ei lythyr, yn ddarostyngedig i sicrwydd y byddai’r grantiau’n talu holl gostau caffael ac adfer yr eiddo.

Y prif gyllidwyr a sicrhawyd ar gyfer yr adferiad oedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, CADW, Cyngor Sir Powys, Cyngor Tref Machynlleth ac Awdurdod Datblygu Cymru, gyda chyllid ychwanegol yn cael ei godi drwy ymgyrchoedd codi arian yn lleol.

Cytunwyd hefyd y byddai Cyngor Sir Powys yn ymuno â chytundeb prydlesu â’r Ymddiriedolaeth i ddefnyddio rhan flaen yr adeilad fel Canolfan Groeso unwaith iddo gael ei adfer. Roedd cefn y Tŷ Brenhinol i’w drawsnewid yn fwthyn gwyliau. Rheolwr y gwaith adnewyddu oedd Trysorydd Mygedol yr Ymddiriedolaeth, Richard Lambert. Penodwyd Michael Goulden yn bensaer a phenodwyd J B Roberts a’i Fab fel y contractiwr, gyda’r gwaith adfer yn dechrau 5 Chwefror 2004.

Agorwyd y Tŷ Brenhinol gan Ôl-Llyngesydd Mark Kerr, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys ddydd Gwener 11 Awst 2006. Agorodd y Ganolfan Groeso toc ar ôl hynny ar 1 Medi 2006. Ar ôl iddi gau ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cymerodd y tenantiaid presennol, Delicatessen Blasau, drosodd y brydles yn 2011.

Y Tanerdy

Ar 18 Gorffennaf 2002, roedd yr Ymddiriedolaeth yn gallu talu ernes i brynu’r hen Danerdy a saif gerllaw y tu cefn i’r Tabernacl. Lansiwyd ymgyrch ym mis Hydref yr un flwyddyn i godi’r arian i gwblhau ei brynu a’i adfer.

Yn 2003 paratôdd y pensaer Mr David Thomas gynlluniau cychwynnol ar gyfer y gwaith adfer ac yn 2004, rhoddwyd caniatâd cynllunio gan Gyngor Sir Powys. Rhwng 2004 a 2008 cafodd grantiau eu sicrhau gan Sefydliad Garfield Weston, Elusen Chase a Sefydliad John S Cohen, yn ogystal ag amryw o ffynonellau preifat. Dyfarnwyd Grant Cynllunio Prosiect hefyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Yn dilyn cyfnod o oedi, adolygwyd cynlluniau’r Ymddiriedolaeth ar gyfer oriel gelf a gofod cerfluniau yn y Tanerdy yn 2009. Er mawr rhyddhad, cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu 22 Ebrill 2010. Cwblhawyd cyfnod un a ganolbwyntiai’n bennaf ar atgyweirio to’r Tanerdy yng ngwanwyn 2011.

Ddydd Iau 23 Awst 2012, cafodd y bont i gysylltu’r Tanerdy ag adeiladau eraill y Tabernacl ei hagor yn swyddogol gan Philip a Joanna Lambert. Erbyn Awst 2013, roedd lloriau newydd a lifft llwyfan wedi’u gosod a’r waliau wedi’u paratoi i’w ddefnyddio fel oriel a gofod cerfluniau.

Ym mis Ionawr 2014, cytunodd yr Ymddiriedolaeth â’r penseiri a’r adeiladwr y byddai’r gwaith yn dechrau ar gyfnod terfynol y prosiect. Lansiwyd ymgyrch i godi’r arian olaf a sicrhawyd grantiau gan Ymddiriedolaeth Garfield Weston a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chyllid pellach wedi’i sicrhau drwy haelioni amrywiaeth o roddwyr preifat. Roedd y rhain yn cynnwys Philip Lambert, y prif roddwr i’r prosiect, ynghyd â chymynrodd hael gan Syr Kyffin Williams.

Yn y pen draw cwblhawyd Oriel y Tanerdy a’r Gofod Cerfluniau 2 Mai 2014. Agorwyd Oriel y Tanerdy a’r Gofod Cerfluniau’n swyddogol ychydig ddyddiau’n nes ymlaen ar 10 Mai 2014.


Glasfryn

Yn 2016 roedd yr Ymddiriedolaeth yn gallu prynu Glasfryn, eiddo preswyl gynt a saif wrth ymyl yr orielau ym mlaen y ganolfan. Cafwyd caniatâd cynllunio i droi’r adeilad hwn yn storfa ddiogel a gwell i weithiau celf Casgliad cynyddol y Tabernacl.

Gwnaethpwyd y gwaith cychwynnol yn 2017 i atgyfnerthu’r adeilad, gosod grisiau a chryfhau sylfaeni’r llawr isaf er mwyn gosod rhestlau proffesiynol i weithiau celf.

Rydym bellach yn codi arian i gwblhau’r gwaith ailwampio.

Cefnogwch ni

Helpwch ni i barhau i rannu arddangosfeydd a digwyddiadau o’r radd flaenaf.

Cael gwybod sut

Twrio drwy’r Casgliad

Twriwch drwy ein casgliad cynyddol o dros 400 o weithiau sy’n canolbwyntio ar artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Twriwch

Arddangosfeydd

Ymdrwythwch mewn gweithiau celf gan artistiaid modern a chyfoes sydd ar ddangos ar draws ein saith oriel gelf.

Pori drwy'r arddangosfeydd