Y telerau ac amodau hyn fydd yn rheoleiddio’ch defnydd o’n gwefan. Wrth ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn eu cyfanrwydd; felly, os ydych yn anghytuno â’r telerau ac amodau hyn neu unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, rhaid peidio â defnyddio ein gwefan.

At ddibenion cyffredinol yn unig y darperir y deunydd a geir ar wefan MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth. Er ein bod yn gwneud ymdrech i sicrhau bod y cynnwys yn gywir ac yn gyfredol, nid yw MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled sy’n codi o ddibynnu ar wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon na gwefannau eraill y gall ein gwefan gysylltu â nhw o bryd i’w gilydd.

Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd na chymryd unrhyw gamau sy’n achosi, neu a allai achosi, ddifrod i’r wefan neu amharu ar berfformiad, argaeledd, hygyrchedd, uniondeb neu ddiogelwch ein gwefan.