Ychydig funudau o waith cerdded o’r Tabernacl, mae bwthyn gwyliau Ysgubor Newydd yn rhan o adeilad hanesyddol y Tŷ Brenhinol – anedd-dy trefol prin o’r Canol Oesoedd a thŷ marsiandwr yn oes y Tuduriaid sy’n cael ei ddefnyddio’n ddi-dor ers y 15fed ganrif.

Mae’r bwthyn 2-lofft hyfryd yma’n gyfforddus gyda digon o le ynddo ac mae’i gymeriad canoloesol wedi’i gynnal mewn ffordd gydnaws. Mae’r llety ar y llawr isaf yn cynnwys un llofft ddwbl ac un â dau wely sengl sy’n rhannu ystafell ymolchi, gydag ystafell fwyta a chegin cynllun agored i fyny’r grisiau. Mae gweithiau o Gasgliad y Tabernacl yn hongian ar waliau’r bwthyn i chi eu mwynhau yn ystod eich ymweliad.

Mae gwyliau bach yn Ysgubor Newydd yn ffordd wych i garedigion cerddoriaeth a chelfyddyd gael mwy o amser i brofi ein harddangosfeydd a chyngherddau. Dyma’r lle perffaith hefyd i grwydro’r ardal leol a’i hatyniadau eraill gan gynnwys Canolfan y Dechnoleg Amgen, Gwarchodfa Natur Ynys-las, Canolfan Gweilch Dyfi a thraethau Aberdyfi.

Archebwch gyda hyder

Archebwch gyda ni drwy ein partner Best of Wales

Twrio drwy’r Casgliad

Twriwch drwy ein casgliad cynyddol o dros 400 o weithiau sy’n canolbwyntio ar artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Twriwch

Beth sy’ ymlaen

O arddangosfeydd celfyddyd weledol i gerddoriaeth glasurol a sgyrsiau am hanes i weithdai creadigol, mae digon i’w ddarganfod yn MOMA a’r Tabernacl, Machynlleth.

Pori digwyddiadau