Disgrifiad

Ers i’r Tabernacl gael ei agor fel canolfan i’r Celfyddydau Perfformio ym 1986, mae Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth wedi goruchwylio cyfres o ddatblygiadau ac addasiadau i’w hadeiladau. Mae’r rhain yn cynnwys ein saith oriel gelf sydd bellach yn Adeilad Ellis, Adeilad Owen Owen a’r Hen Danerdy, yn ogystal â’r Tŷ Brenhinol hanesyddol.

Llwyddwyd i brynu’r diweddaraf o’r datblygiadau hyn, adeilad Glasfryn, a saif wrth ymyl yr orielau, yn 2016 gyda’r bwriad o’i droi’n storfa ddiogel a gwell i weithiau celf yng Nghasgliad cynyddol y Tabernacl.

Mae storfa fodern wedi’i neilltuo i weithiau celf yn allweddol i ddyfodol Casgliad y Tabernacl. Wrth i’r casgliad barhau i dyfu, mae ein storfa bresennol yn mynd yn orlawn a chyn bo hir mae yna berygl na fydd modd i ni storio’r holl weithiau celf yn ddiogel.

Helpwch ni i ddiogelu dyfodol Casgliad y Tabernacl drwy roi i’r ymgyrch yma heddiw.

Bydd pob rhodd, mawr a mân, yn helpu i gadw’r casgliad pwysig hwn i’r cenedlaethau a ddêl.