Trawsnewidiwyd y Tabernacl yng nghanol y 1980au o fod yn gapel Wesleyaidd i fod yn ganolfan i’r celfyddydau perfformio. Ers hynny, mae MOMA Machynlleth (a adwaenid hyd at 2016 fel MOMA Cymru) wedi tyfu wrth ei ymyl ar ffurf saith gofod arddangos hardd.

Drwy gydol y flwyddyn, bydd MOMA Machynlleth yn cyflwyno arddangosfeydd sy’n rhoi sylw i gelfyddyd ac artistiaid modern a chyfoes o Gymru. Mae hyn yn cynnwys arddangosfeydd o waith yng Nghasgliad y Tabernacl a gweithiau ar fenthyg gan gasgliadau cyhoeddus a phreifat eraill. Ym mis Gorffennaf bydd eitemau dethol o Gystadleuaeth Gelf y Tabernacl ar ddangos ac ym mis Tachwedd cynhelir ein harddangosfa mawr ei bri o waith Artistiaid Ifainc Cymru.

Mae MOMA Machynlleth yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau diwylliannol a gyflwynir yn y Tabernacl. Mae hyn yn cynnwys Gŵyl Machynlleth bob blwyddyn ynghyd â chyngherddau a sgyrsiau a hyrwyddir yn annibynnol. Mae’r Tabernacl yn dŷ derbyn i ddigwyddiadau gan gynnwys Gŵyl Gomedi Machynlleth a hefyd cynhelir amrywiaeth eang o ddosbarthiadau, gweithdai a gweithgareddau dysgu yma.

Mae’r Ganolfan hefyd ar gael i’w llogi ar hyd y flwyddyn.

Y Tabernacl

Mwynhewch gyngherddau, sgyrsiau, dramâu a digwyddiadau llenyddiaeth yn yr unig ganolfan ym Machynlleth sydd wedi’i neilltuo’n arbennig i gyngherddau.

Cael Gwybod Mwy

Orielau Celf

Ymdrwythwch mewn gweithiau celf gan artistiaid modern a chyfoes sydd ar ddangos ar draws ein saith oriel gelf.

Cael Gwybod Mwy

Gŵyl Machynlleth

Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Machynlleth, ein dathliad blynyddol o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig a rhyngwladol.

Cael Gwybod Mwy

Casgliad y Tabernacl

Porwch drwy ein casgliad cynyddol o dros 400 o weithiau sy’n canolbwyntio ar artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Twriwch

Ein Hanes

Ym 1984 prynodd ein sefydlydd Andrew Lambert hen gapel Wesleyaidd y Tabernacl.

Siop MOMA

Tretiwch eich hun i ddarn newydd hardd o gelf i’ch cartref.

Siop Goffi Y Tabernacl

Mwynhewch deisennau sy’n tynnu dŵr i’r dannedd yn ogystal â chinio ysgafn, coffi a the.

Cefnogwch ni

Helpwch ni i barhau i rannu arddangosfeydd a digwyddiadau o’r radd flaenaf.

Cael gwybod mwy