Rydym yn ymrwymedig i wneud ein gwefan yn hygyrch ac yn hawdd ei defnyddio i gynifer o bobl ag sy’n bosibl, ni waeth beth yw eu gallu neu anallu.

Rydym wedi anelu at wneud y wefan mor hydrin i’w defnyddio ag sy’n bosibl drwy gydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.0 Consortiwm y We Fyd-eang (W3C), gyda safon AA ar gyfer cynllun gweledol ac adeiladu.

Rydym yn adolygu ein gwefan yn barhaus i sicrhau ei bod yn gweithio tuag at yr arferion gorau ym mhob maes hygyrchedd.

Cyngor ar sut i gael y gorau o’n gwefan:

  • Gwnewch yn siŵr fod eich porwr rhyngrwyd wedi’i ddiweddaru i’r fersiwn fwyaf cyfredol.
  • I wella’ch profiad, gallwch newid y gosodiadau yn y porwyr mwyaf cyffredin, fel newid lliw a maint y testun.
  • Mae llawer o ategion hefyd ar gael am ddim i’ch helpu gyda phethau fel darllenwyr testun, neu wneud addasiadau i’r dangosiad.
  • Bydd y rhan fwyaf o ddelweddau’n cynnwys testun ‘amgen’. Mae hyn yn gadael i ddefnyddwyr na allant weld delweddau gyrchu’r wybodaeth ddisgrifiadol yma.