Eleni rydym yn neilltuo diwrnod cyfan o Ŵyl Machynlleth i gerddoriaeth y cyfansoddwr Franz Schubert. Ond pwy oedd ef, a pham mae mor enwog? Dyma 10 ffaith fach ddifyr am y dyn a’i gerddoriaeth.

1. Franz Schubert oedd brenin yr hyn sy’n cael ei alw’n Lieder, math o ganeuon y gellid eu galw’n ‘ganeuon celfydd’. Yn y rhan fwyaf o ganeuon, y dôn sy’n dod gyntaf, ond mae Lieder yn wahanol – mae’r geiriau yr un mor bwysig â’r gerddoriaeth, a phwrpas y miwsig yw codi’r darn o farddoniaeth i lefel newydd, gan ychwanegu cymeriad ac emosiwn.
Wrth ddweud mai ef oedd ‘brenin’ Lieder, rydyn ni o ddifri. Ysgrifennodd fwy na 600 ohonynt, a chynifer â 145 mewn un flwyddyn, 1815. Er hynny…dim ond 187 a gafodd eu cyhoeddi yn ystod ei oes.

2. Ei lysenw oedd ‘Madarchen Fach’. Nid yr enw mwyaf canmoliaethus. Cafodd y llysenw hwn oherwydd ei daldra (pum troedfedd un fodfedd), a’r ffaith ei fod ychydig yn rhy hoff o’i fwyd.

3. Roedd wrth ei fodd mewn partïon ac yn cymdeithasu, ac yn cynnal “Schubertiaden” – partïon lle byddai ef a’i ffrindiau a’i edmygwyr yn yfed ac yn mwynhau perfformio cerddoriaeth gyda’i gilydd. Hyn sydd wedi arwain at y defnydd o’r gair ‘Schubertiade’ heddiw, yn golygu dathliad o’i gerddoriaeth.

4. Roedd yn canu yn y Côr Bechgyn Fienna enwog. Ar ôl ennill lle yn y côr drwy glywediad, roedd Franz yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim, ystafell lety a lle yn un o’r ysgolion gorau yn Fienna.

5. Roedd yn fflamgludydd yn angladd Beethoven, ochr yn ochr â chyfansoddwyr enwog eraill y dydd, yn cynnwys Hummel. Roedd Beethoven yn edmygu gwaith Schubert ac wedi dweud “Yn wir, mae gwreichionen ddwyfol yn Schubert”.

6. Gwaetha’r modd, dim ond ar ôl ei farw y daeth Schubert yn enwog. Er iddo gael ei gladdu ochr yn ochr â Beethoven fel yr oedd wedi gofyn, roedd yr angladd ei hun yn achlysur eithaf dinod.

7. Dim ond un cyngerdd cyhoeddus o’i gerddoriaeth a gynhaliwyd yn ystod ei oes. Ni chafwyd yr un adolygiad ohono am fod cerddor llawer mwy enwog o’r enw Paganini yn perfformio ychydig ddiwrnodau wedyn, a hynny a ddenodd y sylw i gyd. Nid yw wedi mynd yn ddim haws cael adolygiadau o gyngherddau clasurol ers hynny chwaith…

8. Nid nifer y gweithiau yw’r peth pwysicaf ond …mae nifer y cyfansoddiadau gan Schubert, heb gyfri’r caneuon, yn syfrdanol. Operâu (11), symffonïau (7 wedi’u cwblhau, cynifer â 13 wedi’u cychwyn), pedwarawdau llinynnol, pumawdau, 20 sonata i’r piano, 50 o weithiau corawl. Mae’n hollol ryfeddol, ac yn fwy felly os cofiwch mai dim ond am 20 mlynedd y parodd ei yrfa.

9. Dewinwr Doniau Fienna. Un enwog am nabod doniau yn Fienna, yn debyg i Simon Cowell ein dyddiau ni, oedd y cyfansoddwr Antonio Salieri (yr un a oedd bron yn sicr o fod heb lofruddio Mozart, yn groes i’r syniad yn y ffilm Amadeus). Ef oedd yr un a sylwodd ar ddawn Schubert pan nad oedd ond 7 oed. Ef a gafodd le iddo yn y côr bechgyn a dysgu theori cerdd iddo hefyd.

10. Athrylith fyrhoedlog. Bu farw Schubert ym 1828, yn 31 oed, ar ôl bod yn ddifrifol wael am gryn amser gan ddioddef symptomau fel cur pen, twymyn, cymalau chwyddedig a chwydu. Dydyn ni ddim yn gwybod beth yn union a’i lladdodd – cymerwyd ers amser hir mai’r achos oedd Siffilis, clefyd difrifol iawn ar y pryd, ond mae afiechydon fel Lewcemia neu Anemia yn achosion posibl hefyd, yn ogystal â’r posibilrwydd ei fod yn dioddef gan wenwyn mercwri (gan fod arian byw yn
cael ei ddefnyddio’n aml i drin Siffilis).

Ffaith ychwanegol ac eithaf erchyll. Symudwyd beddau Schubert a Beethoven ym 1888, fel y gallent orffwys nesaf i’w cydgyfansoddwyr Johann Strauss II a Brahms. Roedd y cyfansoddwr Anton Bruckner yno ar y pryd ac mae hanes amdano’n estyn ei law i mewn i’r eirch er mwyn dal a chusanu, wir i chi, benglogau’r cyfansoddwyr mawr.

Gallwch fwynhau cerddoriaeth Schubert yn ystod Gŵyl Machynlleth ar 24 Awst