Mae MOMA Machynlleth yn recriwtio ar gyfer Curadur Celf Llawrydd i guradu arddangosfa flynyddol Artistiaid Ifainc Cymru / Young Welsh Artists. I gyd-fynd ag ethos yr arddangosfa o gefnogi artistiaid ifanc, mae MOMA Machynlleth bellach yn chwilio am guradur(on) ifanc, sydd hefyd ar ddechrau eu gyrfa i guradu arddangosfeydd nesaf y fenter flynyddol gyffrous hon.

Cefndir

Lansiwyd Artistiaid Ifainc Cymru gan MOMA Machynlleth yn 2020 fel arddangosfa flynyddol yn arddangos gwaith artistiaid o dan 30 oed sydd o/yn byw/gweithio yng Nghymru. Nod yr arddangosfa oedd cyflwyno artistiaid o bob rhan o Gymru i’w gilydd a rhoi llwyfan i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa arddangos eu gwaith y tu hwnt i leoliad ysgol/coleg celf yn amgueddfa gelf enwog MOMA Machynlleth.

Mae’r arddangosfa wedi datblygu dros y 4 blynedd diwethaf, ac yn 2023 symudodd i brif ofod arddangos yr amgueddfa, sef Oriel Owen Owen. Ers 2020 mae’r arddangosfa wedi arddangos gwaith bron i 50 o artistiaid ifainc Cymreig cyffrous.

Cyfrifoldebau

– dethol artistiaid a gweithiau celf
– creu cynllun manwl ar gyfer yr arddangosfa, gan gynnwys y detholiad o weithiau celf, eu trefniant, ac unrhyw ystyriaethau thematig
– gweithio gyda’r artistiaid i lunio testunau wal difyr ac addysgiadol ar gyfer pob gwaith celf, gan ddarparu cyd-destun a gwella dealltwriaeth yr ymwelwyr o’r darnau
– cydlynu casglu a dychwelyd gweithiau celf
– gweithio gyda staff MOMA Machynlleth ar osod yr arddangosfa
– hyrwyddo’r prosiect a’r arddangosfa flynyddol ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Ymrwymiadau Amser

Mae’r arddangosfeydd yn agor yn ystod tymor gaeaf MOMA, fel arfer yn ystod canl-diwedd mis Tachwedd gyda’r gosod yn digwydd ar ddechrau mis Tachwedd. Isod mae amlinelliad bras o pryd mae mwyafrif y gwaith trefnu a churadu wedi digwydd yny  gorffennol:

Mawrth-Mai: dewis artistiaid (drwy alwad agored, ymweliadau ysgol gelf, ymweliadau oriel ac ati) a chyfarfod am sgyrsiau rhagarweiniol
Mehefin: cyfarfod ag artistiaid (ymweliadau/ar-lein/galwadau) i drafod syniad bras o’r Gwaith/gweithiau i’w harddangos
Gorffennaf – diwedd Awst: gweinyddiaeth gyffredinol, ateb ymholiadau artistiaid ac ati.
Medi-Hydref: ymweld â MOMA i gynllunio cynllun yr arddangosfa, ysgrifennu/golygu/cyfieithu testunau arddangosfa, cydlynu cynhyrchu’r testun gyda MOMA, cydlynu trosfeddiannu cyfryngau cymdeithasol
Dechrau mis Tachwedd – cydlynu’r gwaith o drefnu cludo’r gweithiau i MOMA, eu dadbacio a helpu tîm MOMA gydag unrhyw anghenion gosod.
Tachwedd-diwedd yr arddangosfa – parhau gyda’r gwaith o hyrwyddo’r arddangosfa
Diwedd yr arddangosfa (diwedd Ionawr/dechrau Chwefror) – pacio’r gweithiau i’w dychwelyd a cydlynnu’r trefniadau dychwelyd.

 Cymwysterau

– Profiad fel curadur celf, gyda ffocws ar arddangosfeydd yn ddelfrydol
– Gwybodaeth gref am gelf gyfoes yng Nghymru, a’r gallu i guradu arddangosfeydd amrywiol a deniadol
– Sgiliau ysgrifennu rhagorol gyda’r gallu i greu testunau arddangos clir
– Sgiliau trefnu da
– Y gallu i gydweithio

Ffi

£1,000

Sut mae ymgeisio?

I ymgeisio, anfonwch ebost i info@moma.machynlleth.org.uk yn cynnwys y canlynol os gwelwch yn dda:

– CV cyfredol yn cynnwys manylion addysg, gwaith ac unrhyw brofiad cuardu neu weithio ar arddangosfeydd blaenorol
– Cyflwyniad i’ch hun sy’n esbonio pam bod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn a pam eich bod yn meddwl eich bod yn addas i’r rôl

Dyddiad Cau

Dydd Llun 18 Mawrth 2024