Mae’r rhaglen glasurol yn yr ŵyl eleni yn cynnwys llawer o feistri cerddoriaeth glasurol – Haydn, Bach, Schubert, Handel a mwy. Ond ymhlith yr enwau hyn mae llond llaw o gyfansoddwyr nad ydynt mor adnabyddus ond, gellid dadlau, y dylen nhw fod. Dyma ganllaw byr i rai ohonynt, ac wedyn rhestr chwarae o’r gerddoriaeth yn yr Ŵyl.

Sally Beamish (ganwyd 1956)

“Mi wnes i ddeffro i sŵn drws yn cau’n dawel i lawr y grisiau. Hyd yn oed nawr, mae’r sŵn yn gyrru ias oer i lawr fy nghefn.”

Pan wnaeth lleidr ddwyn fiola Sally Beamish o’i thŷ, yn naturiol roedd y profiad hwnnw wedi peri gofid mawr iddi. Ond fe wnaeth hefyd ei hysgogi i newid cyfeiriad ei gyrfa i ddechrau cyfansoddi yn hytrach na pherfformio. Ers hynny, mae Sally wedi cyfansoddi ystod eang o gerddoriaeth gan gynnwys gweithiau ar gyfer theatr, ffilm a theledu.

Dewch i glywed ‘Sally’s Carnival Samba’ ddydd Gwener 25 Awst fel rhan o gyngerdd Salieca Trio.

Alejandro Viñao (ganwyd 1951)

Mae Alejandro Viñao, a anwyd yn yr Ariannin ond sydd bellach yn byw yn Llundain, yn adnabyddus am ei gerddoriaeth ar gyfer offerynnau taro. Dyma gyfle i glywed ei ‘Kahn Variations’, o bosib ei ddarn enwocaf gydag unawd i’r Marimba. Mae Alejandro wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer dros 20 o ffilmiau ac wedi gweithio fel cyflwynydd ar gyfer BBC Radio 3.

Dewch i glywed ‘Kahn Variations’ yn ein cyngerdd nos Wener 25 Awst.

Pablo Casals (1876-1973)

Gyda’i wreiddiau yn Catalonia a Puerto Rico, roedd Pablo Casals yn arweinydd ac yn gyfansoddwr, ond efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus fel chwaraewr soddgrwth. Roedd ei recordiadau o gyfresi Bach i’r soddgrwth yn boblogaidd iawn. Perfformiodd Rascal ei gân ‘Song of the Birds’ yn y Tŷ Gwyn i’r Arlywydd John F Kennedy yn 1961, ac mae modd i chi wrando ar y perfformiad hwnnw isod, neu yn fyw fel rhan o’r Ŵyl.

Dewch i glywed ‘Song of the Birds’ fel rhan o’n cyngerdd hwyr nos Sadwrn 26 Awst.

Edmund Rubbra (1901-1986)

Er bod y cyfansoddwr Edmund Rubbra yn llai adnabyddus erbyn hyn, roedd ar ei anterth yng nghanol yr 20fed ganrif. Dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn yr ysgol ond yna aeth i weithio yn un o’r ffatrïoedd esgidiau yn Northampton, ei dref enedigol. Yn 17 oed, newidiodd ei fywyd pan benderfynodd drefnu cyngerdd o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Cyril Scott, a ddaeth i fod yn athro i Edmund. Cyfansoddodd Edmund 11 symffoni, amryw o weithiau corawl a choncertos yn ogystal â cherddoriaeth siambr, cerddoriaeth ar gyfer y piano a llawer mwy.

Dewch i glywed ‘Alabaster Sonnets’ Edmund Rubbra fel rhan o’n cyngerdd coffi ddydd Sul 27 Awst.

Sir Arthur Bliss (1891-1975)

Datblygodd Arthur Bliss o fod yn rebel cerddorol i fod yn gyfansoddwr cerddoriaeth ramantus boblogaidd, ac wedyn oherwydd hynny ystyriwyd ef ychydig yn hen ffasiwn. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog, gyda dros 140 o gyfansoddiadau i’w enw, sydd yn amrywio o gerddoriaeth siambr i gerddoriaeth opera, yn ogystal â llawer o weithiau seremonïol a gyfansoddwyd ganddo pan oedd yn Feistr Cerddoriaeth y Frenhines.

Dewch i glywed ei ‘Two Nursery Rhymes’ fel rhan o’n cyngerdd coffi ddydd Sul 27 Awst.

Ottorino Respighi (1879-1936)

Mae’n debyg mai Respighi yw’r cyfansoddwr mwyaf adnabyddus ar y rhestr hon, ond efallai nad yw mor adnabyddus erbyn heddiw. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei gyfansoddiad cerddorfaol ‘The Pines of Rome’, ac roedd ar ei anterth yn yr 1920au a’r 1930au gyda’i gerddoriaeth yn cael ei pherfformio ledled y byd, o Brasil i Rwsia. Ac yntau’n draddodiadwr, nid oedd yn hoff o’r gerddoriaeth fodern flaengar, gan ddweud “Digyweiredd – Diolch i’r drefn mae hynny drosodd!” Er ei fod bellach yn adnabyddus yn bennaf am gerddoriaeth cerddorfaol, cyfansoddodd 9 opera, a chawn gyfle i glywed rhywfaint o’i gerddoriaeth leisiol yn yr Ŵyl.

Mae ‘II Tramonto’ (Y Machlud) yn rhan o gyngerdd clo yr Ŵyl ar ddydd Sul 27 Awst.