Gŵyl 2025 yn Dod Cyn Hir

Dyddiadau am eich dyddiadur: 17-24 Awst 2025

Darllenwch isod am fanylion cyntaf rhaglen eleni, newydd eu cyhoeddi!

Yn glud yng ngodre bryniau Eryri, mae tref farchnad fywiog Machynlleth yn agor ei breichiau
bob mis Awst i fod yn gartref i Ŵyl o gerddoriaeth, diwylliant a threftadaeth o Gymru a’r Byd
am wythnos gyfan. Rydym ni wrth ein bodd i’ch croesawu’n ôl yr haf yma am flwyddyn arall o
greu cerddoriaeth eithriadol yn amgylchoedd bendigedig Y Tabernacl.

Cymwynaswyr yr Ŵyl

Dewch yn Gymwynaswr a rhowch y gefnogaeth ariannol hanfodol sydd ei hangen ar Ŵyl Gŵyl Machynlleth.

Mwy o wybodaeth

Bydd pigion 2025 yn cynnwys:

18 Awst: ‘A’r Noson Fel Hon’ / ‘On a Night Like This’ gydag Aled Wyn Davies, Sara
Meredydd ac Edryd Williams

19 Awst: Côr Godre’r Aran gyda Jessica Robinson (soprano), Trystan Llŷr Griffith (tenor) a’r
cyfarwyddwr Eirian Owen

20 Awst: Budapest Cafe Orchestra gyda Christian Garrick (yn y llun isod)

21 Awst: The Mozart Experience gyda’r pianydd Kristian Bezuidenhout (yn y llun isod) a’r
Consone Quartet

22 Awst: Pedwarawdau Beethoven gydag Alina Ibragimova (yn y llun isod) a’r Chiaroscuro
Quartet

22 Awst: Bach Gyda’r Hwyrnos gyda Rachel Podger

23 Awst: Amrywiadau Diabelli Beethoven gyda’r pianydd Steven Osborne

U Diweddglo Gala gyda cherddoriaeth Gymreig Draddodiadol, Opera a Chanu gyda
Chôr Bro Meiron, Gwyn Hughes Jones (tenor), Rhian Lois (soprano), Paul Carey Jones
(bariton bas) a Julius Drake (piano)

I sicrhau y cewch chi’r newyddion cyntaf pan fydd tocynnau’n mynd ar werth, gwnewch yn
siŵr eich bod chi wedi cofrestru am ein rhestr bostio – ymunwch ar waelod y dudalen.

Budapest Cafe Orchestra

Gwybodaeth Ŵyl

Edrych ar MOMA Ar-lein