Y bas-fariton Cymreig, Syr Bryn Terfel yw derbynnydd Gwobr Glyndŵr eleni am ei gyfraniad neilltuol i gerddoriaeth, mewn gyrfa ryngwladol ryfeddol sydd wedi ei weld yn perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau a thai opera mwyaf mawreddog y byd dros gyfnod o fwy na 40 mlynedd.