Aled Edwards – Bariton
Eleri Owen Edwards – Mezzo-Soprano
Eirian Owen – Cyfeilydd

Croeso cynnes iawn i Aled ac Eleri, yr unawdwyr a’r ddeuawd medrus ac adnabyddus o Gilycwm, Llanymddyfri. Mae repertoire amrywiol Aled ac Eleri yn ymestyn ar draws y rhan fwyaf o gyfnodau a genres cerddorol, o glasurol i gyfoes.

Mae’r ddau wedi ennill y Rhuban Glas nodedig fel unawdwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod eu gyrfaoedd, ac maent wedi ymddangos ar S4C ac wedi recordio cryno ddisgiau fel unawdwyr. Yn ddiweddar, maent wedi rhyddhau eu CD fel deuawd — Dau Fel Ni.