Côr Meibion Llangwm
Bethan Smallwood – Arweinydd

Meinir Wyn Roberts – Soprano
Trystan Llŷr Griffiths – Tenor

Estynnwn groeso cynnes i Gôr Meibion Llangwm, sy’n adnabyddus ac yn boblogaidd iawn, ac sy’n cynnal cyngherddau led led gogledd Cymru a thu hwnt. Maent yn cystadlu’n rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle maent wedi ennill nifer o wobrau. Yn ymuno â hwy fydd yr unawdwyr Trystan Llŷr Griffiths a Meinir Wyn Roberts, gyda’r ddau yn dychwelyd yn ôl i’n Gŵyl gyda chroeso gwresog. Eirian Owen fydd yn cyfeilio iddynt.

Archebwch eich tocynnau’n gynnar, mae hyn yn siŵr o fod yn ddigwyddiad poblogaidd.