Elen Wyn & Huw Llywelyn

Deuawd gitar a llais yw Elen a Huw a sefydlwyd y llynedd. Dechreuodd y ddau bostio fideos ohonynt yn perfformio ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn sgil yr holl sylw, maent bellach yn teithio’r wlad yn perfformio mewn gigiau, priodasau a digwyddiadau eraill. Maent yn cael boddhad yn perfformio caneuon Cymraeg, caneuon pop, a threfniannau gwreiddiol o ganeuon gwerin.