Aled Wyn Davies
Sara Meredydd
Edryd Williams
Linda Gittins (piano)
Glyn Owens (llywydd)

Mae tri chyn-aelod o Gwmni Theatr Maldwyn, sydd hefyd yn unawdwyr ar eu liwt eu hunain, yn dod at ei gilydd unwaith eto i roi gwledd o gerddoriaeth i ni. Byddant yn perfformio caneuon o’r sioeau ynghyd â chaneuon adnabyddus eraill. Mae tipyn o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf iddynt berfformio yng Ngŵyl Machynlleth ac maent yn eu holau ar gais y bobl.

Cefnogir y digwyddiad gan Gyfeillion y Tabernacl.

 

Linda Gittins, Penri Roberts, Derec Williams (Cwmni Theatr Maldwyn)
  • Rhaid I mi Fyw (Heledd)
Linda Gittins, Penri Roberts, Derec Williams (Cwmni Theatr Maldwyn)
  • Gad I mi dy dywys di (Sioe Ann!)
Lionel Bart
  • Reviewing the Situation (Oliver).
Linda Gittins, Penri Roberts, Derec Williams (Cwmni Theatr Maldwyn)
  • Rwy’n dy weld yn sefyll. (Sioe Ann)
David Foster, Carole Bayer Sager, Alberto Testa, Tony Renis
  • Y Weddi.  (The Prayer Duet in Welsh)
Linda Gittins, Penri Roberts, Derec Williams (Cwmni Theatr Maldwyn)
  • Cân y Ceiliog (Myfi Yw).
Cwmni Theatr Meirion
  • Popeth er dy fwyn. (Er Mwyn Yfory).
Linda Gittins, Penri Roberts, Derec Williams (Cwmni Theatr Maldwyn)
  • Cysga Mhlentyn. (Ann!)
Cwmni Theatr Meirion.
  • Dilynaf Di I ben draw’r Byd. (Er Mwyn Yfory).
Linda Gittins, Penri Roberts, Derec Williams (Cwmni Theatr Maldwyn)
  • Eryr Pengwern. (Heledd)
Linda Gittins, Penri Roberts, Derec Williams (Cwmni Theatr Maldwyn)
  • Requiem I Ann. (Ann!)

 

Nodyn gan Gyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl, Dennis Jones:

Croeso i ŵyl wahanol iawn eleni oherwydd y pandemig Coronfeirws sy’n dal i fynd ymlaen ac sydd wedi atal pob cyngerdd yn y Tabernacl hyd at yr adeg yma. Ond fel y gallwch weld, mae’r Ŵyl yn fyw ac yn iach a’n gobaith yw dychwelyd at raglen gyflawn yn 2022.

Eleni, bydd gynnon ni noson o ganeuon o’r sioeau cerdd Cymraeg, ynghyd â rhai unawdau adnabyddus o sioeau cerdd eraill. Artistiaid y noson fydd Aled Wyn Davies, Sara Meredydd ac Edryd Williams, gyda Linda Gittins yn cyfeilio a Glyn Owens yn llywyddu. Mae pob un o’r unawdwyr yn hen law yn y maes ac wedi cymryd rolau blaenllaw gyda Chwmni Theatr Maldwyn.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r noson, boed fel un o aelodau lwcus ein cynulleidfa fyw neu’n wir ar-lein o gysur eich cartref eich hun.

Tocynnau ar gael: 2 Awst

Anfonir dolen i wylio’r digwyddiad unwaith i chi brynu tocyn.

Gwybodaeth am yr Ŵyl:

Cael gwybod mwy am Ŵyl Machynlleth a darllen ein Cwestiynau Cyffredin yn ei chylch.

Darllen Mwy