Mike Parker

Yr awdur a’r darlledwr, Mike Parker, sy’n derbyn Gwobr Owain Glyndŵr eleni am Gyfraniad Neilltuol i’r Celfyddydau yng Nghymru.

Ganed Mike yn Birmingham ond ar ôl ysgrifennu’r Rough Guide to Wales cyntaf fe’i hysbrydolwyd i’r fath raddau nes iddo godi gwreiddiau i fyw yma. Mae wedi cael gyrfa amrywiol a’i gwelodd ar un adeg yn gweithio fel digrifwr stand-yp. Mae Cymru wedi bod yn awen, yn gariad ac yn artaith iddo, rhywbeth y mae wedi ymdrin ag o ar y teledu a’r radio ac mewn llyfrau fel Neighbours from Hell? Real Powys, The Greasy Poll a’i gyfrol ddiweddaraf, On The Red Hill, a ddisgrifiwyd yn y Guardian gan Simon Callow fel llyfr “rhyfeddol, uchelgeisiol, amlhaenog”. Mae Mike yn byw gyda’i bartner, Peredur ger Darowen.

Bydd yr awdur Manon Steffan Ros yn siarad am Mike ac yn cyflwyno’r wobr.

Tocynnau ar gael: 2 Awst

Anfonir dolen i wylio’r digwyddiad unwaith i chi brynu tocyn.

Gwybodaeth am yr Ŵyl:

Cael gwybod mwy am Ŵyl Machynlleth a darllen ein Cwestiynau Cyffredin yn ei chylch.

Gweld Gwybodaeth