Mae cerddoriaeth glasurol yn rhywbeth sy’n gysylltiedig yn aml â thraddodiad a dilyniant, yn hytrach nag arloesedd, felly mae yna ragdybiaeth weithiau nad oes llawer wedi newid dros y canrifoedd.

Ond yn yr un modd ag y mae ffurfiau ac arddulliau cerddoriaeth wedi newid dros y blynyddoedd (mae cerddoriaeth Bach braidd yn wahanol i gerddoriaeth Mahler), felly hefyd pethau eraill. Ac un o’r pethau hynny yw’r offerynnau eu hun, ac yn wir sut maen nhw’n cael eu chwarae. Wrth gwrs mae rhai offerynnau wedi dod a mynd, y theorbo er enghraifft. Ac mae rhai offerynnau wedi dod i fodolaeth yn fwy diweddar. Ond mae rhai a fu’n sefydledig ers canrifoedd – offerynnau llinynnol fel y fiolin a’r sielo er enghraifft, neu’r piano. Ac ar yr olwg gyntaf, maen nhw’n edrych fel y buon nhw erioed…ond nid yw hynny’n wir yn union.

Er y gall y newidiadau fod yn rhai cynnil, mae offerynnau cerddorol a dulliau eu chwarae wedi newid, weithiau’n ddirfawr. Cymerwch y fiolin – mae wedi esblygu dros amser i’r offeryn a welwn ni heddiw. Ond byddai’r fiolin cyfarwydd i Bach yn go wahanol i’r rhai sy’n cael eu creu heddiw. Cymerwch y bwa er enghraifft – siâp geugrwm sydd i fwa heddiw, gan blygu tuag at y blew ar ei hyd, tra bod bwâu Baròc (o gyfnod Bach neu Handel) yn fyrrach ac mae iddynt siâp amgrwm – gan blygu tuag allan, i ffwrdd o’r blew. Mae arddull chwarae pob un yn eithaf gwahanol, fel y mae’r sain a gynhyrchir.

Ac mae’r llinynnau’n cael eu defnyddio mewn dull hollol wahanol. Mae offerynnau heddiw yn defnyddio llinynnau cwbl fetel, ond ganrifoedd yn ôl roedd coluddion anifeiliaid yn cael eu defnyddio – unwaith eto’n newid y sain ac yn mynnu (llawer) mwy o diwnio gan eu bod yn llawer mwy sensitif i newidiadau mewn gwres a lleithder.

Ac wedyn mae’r piano. Ei ragflaenydd oedd y fortepiano (yn llythrennol, yr ‘uchel meddal’). Mae adeiladwaith y fortepiano yn llawer ysgafnach na phianos heddiw, a thra bod pianos modern yn cael eu hadeiladu am gysondeb ar draws y nodiadau, fe glywch lawer mwy o amrywiaeth sain o nodiadau dyfnaf y fortepiano i’r nodiadau uchaf – mwy o suo yn y bas a mwy o dincial yn y nodiadau uwch. Hefyd mae’n llawer tawelach na’r offeryn modern – yn fwy o ran o wead concerto nag offeryn unawdol trechaf.

Beth sy’n ddiddorol am hyn i gyd, wrth gwrs, yw y bu’r cyfansoddwyr yn ysgrifennu ar gyfer offerynnau eu hoes, nid am offerynnau modern. Nid oedd Mozart erioed yn disgwyl i’w concertos piano gael eu chwarae ar yr offerynnau cyhyrog sy’n gyfarwydd i ni nawr, ac efallai y byddai wedi’u hysgrifennu’n wahanol pe bai wedi gwybod.

Dros y 40-50 mlynedd diwethaf, cododd y mudiad ‘Perfformiad wedi’i Hysbysu’n Hanesyddol’ (HIP) – sy’n ymroi i adfywio’r offerynnau hynny a chwarae’r arddulliau hynny ac efallai ein tywys ychydig yn agosach at y seiniau roedd y cyfansoddwr yn bwriadu. Wedi’u hystyried ar y dechrau’n ‘hipis’ bydd cerddoriaeth glasurol, erbyn hyn mae’n fudiad hynod ddylanwadol, sy’n newid arddulliau chwarae ar draws cerddoriaeth glasurol. Ni fu heb ambell i ddadl – roedd llawer yn casáu’r syniad o chwarae offerynnau llinynnol heb vibrato er enghraifft, rhywbeth na chafodd ei wneud yn y gorffennol – ond erbyn hyn mae cerddorfeydd fel yr Orchestra of the Age of Enlightenment a’r Academy of Ancient Music yn brif ffrwd yn hytrach ag ar yr ymylon ac yn bendant yn rhan graidd o o fyd cerddoriaeth glasurol.

Yng Ngŵyl eleni rydyn ni’n cynnal tri pherfformiad sy’n cael eu chwarae ar beth sy’n cael eu galw’n offerynnau ‘cyfnod’. Heno mae’r pianydd forte ardderchog Kristian Bezuidenhout yn cynnig cyfle prin i ni glywed Mozart yn cael ei chwarae ar yr offeryn hwnnw – ac mae wir yn go wahanol. Mae’r Consone Quartet yn ymuno ag af ar y llwyfan, yn chwarae ar linynnau coludd. Y noson ddilynol gallwch glywed Beethoven yn cael ei chwarae ar offerynnau cyfnod gyda’r Chiaroscuro Quartet ac wedi hynny bydd un o’r fiolinwyr Baròc gorau a chymeriad blaenllaw ym myd ‘HIP’ heddiw, Rachel Podger, yn ymuno â ni am Bach gyda’r hwyr.

Mae’n addo bod yn gyfres gyfareddol o berfformiadau, ac mae ymddangosiad Steven Osborne yn chwarae Beethoven ar biano modern nos Sadwrn yma’n cynnig newid diddorol o safbwynt cymharu a chyferbynnu.

Porwch holl berfformiadau’r Ŵyl yma.