gan ein hymgynghorydd marchnata, William Norris

Mae gan bron pob math o swyddi eu jargon. A phan fyddwch chi wedi gweithio mewn sector arbennig am gyfnod hir mae’n hawdd ei anwybyddu ac yn ffordd o ddangos eich bod chi ‘ar y tu mewn’ ac yn gwybod beth mae popeth yn ei olygu, ond o bryd i’w gilydd bydd pethau’n rhoi’r ysgytwad mae arnoch chi ei angen i sylweddoli eich bod chi, yng ngolwg gweddill y byd, yn siarad rwtsh – yn aml gan gwestiynau annisgwyl mae ffrindiau sydd ddim yn gyfarwydd â’ch byd chi yn eu gofyn.

Mae cerddoriaeth glasurol yn arbennig o dda (neu wael, yn dibynnu ar eich safbwynt) am jargon. A chan ei bod yn arbenigedd mae pobl yn gallu mynd yn obsesiynol amdano, mae’r jargon yn treiddio’n ddwfn ac yn aml y ddisylw. Daeth un o’r cwestiynau annisgwyl yna a roddodd yr ‘ysgytwad’ imi o un o’m swyddi cyntaf i, yng Ngherddorfa Ffilharmonig Llundain, pan ofynnodd rhywun beth ydy’r gwahaniaeth rhwng Cerddorfa Ffilharmonig a Cherddorfa Symffoni. Roedd y cwestiwn yn syndod gan nad oeddwn i, mae’n debyg, erioed wedi meddwl amdano o’r blaen. Yr ateb yw nad oes yna unrhyw wahaniaeth, ond wrth edrych i mewn i’r peth des i ar draws un peth hyfryd, sef bod ‘Ffilharmonig’ yn llythrennol yn golygu ‘cariad at gyseinedd’.

Ta beth, yng ngoleuni hyn, roeddwn i’n meddwl y gallai fod o fudd rhoi esboniad o dipyn o’r jargon rydyn ni wrth ein bodd yn ei ddefnyddio yma yng Ngŵyl Machynlleth eleni.

Cerddoriaeth siambr
Mae llawer o’r cyngherddau yn yr ŵyl yn beth sy’n cael ei galw’n ‘gerddoriaeth siambr’. Yn y bôn, mae cerddoriaeth siambr yn gerddoriaeth sy’n cael ei hysgrifennu ar gyfer grŵp bach o gerddorion. Wrth reswm, mae’n agos, ac yn ei dyddiau cynnar cafodd ei hysgrifennu mewn gwirionedd i’w pherfformio yn y cartref. Dim ond yn weddol ddiweddar y mae wedi mudo i’r neuadd gyngerdd. Disgrifiodd yr athronydd Goethe gerddoriaeth siambr (yn yr achos hwn, pedwarawd) fel ‘pedwar unigolyn rhesymegol yn sgwrsio’ ac mae hynny’n ffordd hyfryd o feddwl amdani. Nid yw’n ymwneud ag ystumiau crand cerddorfa (boed Ffilharmonig neu fel arall!), ond ag offerynnau’r grŵp yn ymateb i’w gilydd mewn ffordd sgyrsiol – bydd un efallai’n cyflwyno alaw, er enghraifft, a bydd y lleill yn ymateb neu’n ehangu ar yr alaw honno, yn union fel mae sgwrs rhwng ffrindiau’n esblygu.

Oherwydd ei gwreiddiau cartrefol, mae cerddoriaeth siambr yn gallu colli ei heffaith mewn neuaddau cyngerdd mawr, ond yn ffodus mae ein Tabernacl ni’n berffaith amdani – efallai un o’r lleoliadau gorau am gerddoriaeth siambr yn y DU.

Pumawdau, Pedwarawdau, Triawdau a mwy
Mewn cyngerdd cerddoriaeth siambr, fe welwch gyfeiriadau at y rhain yn aml, sy’n cyfeirio’n syml at faint y grŵp y cafodd y gerddoriaeth ei hysgrifennu amdano:

Chwechawd – 6 cherddor
Pumawd – 5 cerddor
Pedwarawd – 4 cerddor
Pedwarawd – 3 cherddor.

Rhifau K, rhifau BMV, ac yn y blaen
Gan amlaf, rydyn ni wedi cael gwared ar y rhain o fanylion ein digwyddiadau, ond fe welwch y rhifau rhyfedd hyn yn aml ar restriadau cyngerdd, ac i mi eu heffaith yn aml yn gwneud i restriad cyngerdd edrych fel algebra cymhleth yn hytrach na rhywbeth i’w fwynhau, gobeithio!

Mae’r holl rifau hyn ond yn rhan o gatalogio cerddoriaeth cyfansoddwr. Does dim rhifau gan bob cyfansoddwr, ond fel arfer maen nhw gan y rhai a ysgrifennodd lawer. Er enghraifft mae cerddoriaeth Mozart yn cael ei chatalogio gan ddefnyddio rhifau K, wedi’u henwi ar ôl Ludwig Ritter

von Köchel a ddatblygodd restr gronolegol o gerddoriaeth y cyfansoddwr. Os ydych chi WIR yn gwybod eich stwff, byddwch chi efallai’n cyfeirio at ddarn gan Mozart fel ‘K467’ ond yn gyffredinol rwy’n credu ei bod yn llawer gwell i bawb i ddweud ‘Piano Concerto No.21’! Dyma grynodeb o rai cyfansoddwyr a’u rhifau catalog:

Mozart – K
Bach – BMV
Haydn – Hob (Haydn efallai ydy’r enghraifft bennaf o pam mae angen y rhifau catalog yma, wedi
cyfansoddi bron 500 o ddarnau o gerddoriaeth)
Handel – HMV
Mendelssohn – MWV
Purcell – Z
Ravel – MR

Felly na, dydy rhifau K ddim yn ddrwg i chi fel mae’n digwydd!

A beth am yr holl Ops yna?
Un peth rydyn ni wedi’i gadw yn ein rhestriadau ydy rhifau Opus, achos mewn rhai achosion maen nhw’n gwbl angenrheidiol i fod yn glir am beth ydy darn o gerddoriaeth (sy’n wir hefyd am rifau K). Mae rhifau Opus yn ffordd arall, fwy safonol, o gatalogio cerddoriaeth cyfansoddwyr, yn lle’r rhifau pwrpasol i gyfansoddwr unigol uchod.`

Mae rhifau Opus yn gallu rhoi syniad i chi a gafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi’n gynnar neu’n hwyr (rhifau isel i uchel) yng ngyrfa cyfansoddwr ac yn achos rhai darnau sydd â theitlau gweddol generig (rwy’n edrych yn arbennig ar Chopin yma a’i lu o Polonaises, Nocturnes a Mazurkas) maen nhw’n gallu’ch helpu i adnabod y darn penodol.`

Mae pob Opus yn cael ei rannu’n weithiau gyda rhifau unigol, felly bydd gennych chi ddarn o gerddoriaeth sy’n 3ydd gwaith ym 5ed Opus y cyfansoddwr sy’n ‘Op.5 No.3’. Ac wrth gwrs mae rhywbeth a ystyriyr fel gwaith gorau cyfansoddwr neu artist yn aml yn cael ei alw eu ‘magnum’ opus. Teitl cystal fel bod ‘magnums’ o champagne a’r hufen iâ wedi’u henwi ar ei ôl…

Nawr, yn debyg i’r rhifau catalog, mae’n rhaid i chi fod yn ddilynwr brwd cerddoriaeth glasurol i edrych ar raglen a dweud ‘o rwy’n DWLU ar Opus 21’! Ar ôl mwy nag 20 mlynedd o weithio yn y busnes, rwy wedi sylweddoli erbyn hyn mai Opus 5 Concerto Grossi Handel rwy’n arbennig o hoff ohono, er enghraifft – ond maen nhw’n gallu bod yn hanfodol i nodi pa ddarn yn union byddwch chi’n ei glywed!

Allegro, Andante, Dolce
Fe welwch chi’r geiriau apelgar hyn yn aml yn rhestriad mudiadau sy’n rhan o ddarn cyflawn. Mae’r esboniad yn weddol sylfaenol, gan eu bod dim ond yn arweiniad am gyflymder neu naws i’r cerddorion, ac os ydych chi’n siarad Eidaleg rydych chi’n ffodus, gan eu bod ran amlaf mewn Eidaleg. Felly am yr enghreifftiau hyn, mae Allegro yn golygu cyflym, Andante ydy ‘ar gyflymder cerdded’ ac mae Dolce yn awgrym y dylai’r gerddoriaeth gael ei chwarae’n felys.

E major? F minor? C major?
Wnes i betruso cyn ceisio esbonio arwyddion cyweiriau, ond wedyn meddwl na wnaiff unryhyw niwed, gan fod rhaid i chi fod wedi dysgu darllen cerddoriaeth ar ryw adeg i’w deall. Mae’n bwnc mawr hefyd. Ac yn benodol i gerddoriaeth Gorllewin Ewrop. Ond yn y bôn, os meddyliwch chi am lawfwrdd piano, mae’r nodau gwyn yn nodau ‘naturiol’ a’r nodau du yw’r nodau ‘sharp’ and ‘flat’. Mae arwydd cywair dim ond yn ffordd o gyfarwyddo’r perfformiwr wrth gychwyn y darn pa nodau i’w chwarae fel nodau naturiol a pha rai i chwarae ‘sharp’ neu ‘flat’ amdanyn nhw yn lle. Er enghraifft, yn C Major rydych chi’n defnyddio dim ond y nodau naturiol, ond yn G major mae’r nodyn ‘F’ yn dod yn ‘F sharp’ yn lle.

Fe welwch arwyddion cyweiriau yn aml mewn rhestriadau darnau ac unwaith eto maen nhw’n gallu bod yn ffordd hwylus o adnabod yr union ddarn. Maen nhw’n gallu rhoi syniad i chi hefyd o sut fyddan nhw’n swnio am fod arwyddion cyweiriau ‘major’ at ei gilydd yn swnio’n gadarnhaol ac yn llon ond mae rhai ‘minor’ yn gallu swnio’n drist.

Beth bynnag, dyna ni – gwibdaith o gwmpas rhywfaint o jargon cerddoriaeth glasurol. Dim ond cipolwg oedd hwn felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau llosg am y termau hyn neu dermau eraill, rhowch wybod i ni a gwnawn ni’n gorau i esbonio!