27 Hydref 2020

Pleser o’r mwyaf i Gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth yw cyhoeddi agor ym MOMA Machynlleth un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous ym myd celf Cymru, arddangosfa gyntaf Artistiaid Ifainc Cymru. Bydd y digwyddiad hwn, a fwriedir i ddangos gwaith artistiaid o dan 30 sy’n gweithio yng Nghymru, yn cael ei gynnal bob blwyddyn ym mis Tachwedd ym MOMA Machynlleth.

Yr artistiaid a gyflwynir yn yr arddangosfa agoriadol yw Lili Hauser, Elin Hughes, Guto Morgan, Abby Poulson, Rhiannon Rees, Jasmine Sheckleford, Owain Sparnon, Tomos Sparnon, Ethan Dodd a Sara Treble-Parry.

Rydym yn diolch yn arbennig i Lydia Lambert yr ysbrydolwyd AIC gan ei rhodd i’r Ymddiriedolaeth; i Dr Robert Meyrick am ei gyngor amhrisiadwy ac i’n dau Guradur Dr Lloyd Roderick a Mari Elin Jones nad oes pall ar eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad ni waeth pa mor ddigalon yw’r byd mawr y tu allan.

Os caniateir arddangosfa draddodiadol bydd mesurau iechyd llym yn eu lle. Fel arall, bydd yr arddangosfa’n cael ei ffilmio ac i’w gweld ar-lein. Sut bynnag fydd hi, gobeithiwn y byddwch yn mwynhau rhannu’r cyfle â ni i weld y gorau o’r hyn y gall Artistiaid Ifainc Cymru ei gynnig.

 

Ein Hailagor Arfaethedig

Yn amodol ar gyfyngiadau’r Llywodraeth, o ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, bydd Orielau a Chaffi MOMA Machynlleth yn agored 2 ddiwrnod yr wythnos ar ddyddiau Mercher a Sadwrn o 10yb tan 4yp. Bydd ein harddangosfeydd agoriadol yn cynnwys Artistiaid Ifainc Cymru a Chymdeithas yr Engrafwyr Pren.

Mae diogelwch ymwelwyr yn bwysig i ni ac mae staff MOMA Machynlleth wedi bod wrthi’n brysur yn rhoi trefniadau yn eu lle i helpu i gadw ein hymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff yn ddiogel yn ystod COVID-19.  Mae’r trefniadau hyn yn cynnwys cymryd manylion cyswllt ar gyfer tracio ac olrhain, gwisgo masgiau wyneb yn orfodol, mannau diheintio dwylo ar gael ledled yr adeilad, systemau unffordd ar waith ledled yr orielau gyda mynedfeydd ac allanfeydd ar wahân i ymwelwyr, ymweliadau â’r orielau drwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig, cyfyngu ar faint y grwpiau y caniateir mynediad iddynt yn unol â chanllawiau cyfredol a threfn lanhau arbennig yn ei lle gydag arwynebau’n cael eu glanhau rhwng pob ymweliad sydd wedi’i drefnu.

Gall ymwelwyr gadarnhau argaeledd ac archebu eu hymweliad o ddydd Llun 2 Tachwedd drwy alw 01654 703355 neu e-bostio [email protected].

Cyswllt

Emily Bartlett, MOMA Machynlleth, [email protected]