Siop MOMA

Tretiwch eich hun i ddarn newydd hardd o gelf i’ch cartref.

Mae’r rhan fwyaf o arddangosfeydd MOMA Machynlleth yn cynnwys gweithiau celf sydd ar werth gyda’r dewis o brynu drwy randaliadau. Gallwch hefyd bori yn ein siop ar y safle yn ystod eich ymweliad lle ceir detholiad arbennig o lyfrau, cardiau, printiau a nwyddau eraill sy’n gysylltiedig â’r arddangosfeydd ar werth. Mae eitemau hefyd ar gael i’w prynu ar-lein.

Siop Goffi’r Tabernacl

Mae ein Siop Goffi ar agor bob dydd Mercher ar hyn o bryd (10yb-2yp) yn gweini dewis o ddiodydd poeth a chacennau traddodiadol o Gymru.