Disgrifiad

Mae ein Cynllun Corau Gwaddol eisoes wedi’i gefnogi’n dda, gyda llawer o unigolion wedi rhoi sedd yn eu henwau eu hunain neu yn enw anwylyd y maen nhw am ei gofio.

Pan fyddwch yn prynu sedd gôr, bydd plac pres â’ch enw arno, neu enw’r person rydych yn ei goffáu, yn cael ei osod ar gefn y sedd yr ydych chi wedi’i dewis. Bydd y manylion hyn hefyd yn cael eu hychwanegu at ein Llyfr Gwaddolion Côr.

Drwy enwi sedd rydych yn helpu i gyfrannu at gynnal MOMA a’r Tabernacl fel canolfan neilltuol i’r celfyddydau. Rydych chi hefyd yn ein helpu i gadw’r orielau’n ddi-dâl i ymwelwyr ac i gefnogi artistiaid gweledol a cherddorion newydd a blaenllaw.

Dim ond £250 yw’r ffi i’n cefnogi drwy Waddol Côr. Lleiafswm yw hwn ac mae croeso bob amser i roddion ychwanegol.