Disgrifiad

Mae Gŵyl Machynlleth wedi sicrhau enw da anhygoel ers iddi ddechrau ym 1987. Mae llawer o bobl wedi mwynhau perfformiadau neilltuol yn yr Ŵyl yn acwsteg syfrdanol y Tabernacl ac ymhlith artistiaid yr Ŵyl yn y gorffennol mae’r Fonesig Evelyn Glennie, Courtney Pine, Bryn Terfel, Jess Gillam a Roderick Williams.

Yn debyg i’r rhan fwyaf o wyliau cerdd, nid yw’r refeniw o werthiant tocynnau’r Ŵyl yn talu’n llwyr am y perfformiadau. Cefnogwyr hynod werthfawr yw Cymwynaswyr yr Ŵyl y mae eu haelioni’n cefnogi’n uniongyrchol ein gallu i barhau i gyflwyno rhaglenni uchelgeisiol i’r Ŵyl bob blwyddyn.

Drwy ddod yn Gymwynaswr, byddwch yn cynnig i’r Ŵyl y cymorth ariannol hanfodol sydd ei angen arni i gefnogi a diogelu ei dyfodol. Mae’r buddion yn cynnwys:

  • Cydnabyddiaeth yn rhaglen yr Ŵyl (oni bai’ch bod am aros yn ddienw)
  • Cael blaenoriaeth wrth dderbyn cyhoeddiadau a chyfleoedd archebu ar gyfer rhaglen yr Ŵyl
  • Derbyn gostyngiad ar Docynnau Tymor yr Ŵyl
  • Derbyn gwahoddiadau i ambell ddigwyddiad arbennig yn ystod wythnos yr Ŵyl. Mae’r rhain yn cynnwys cyngerdd preifat sy’n cynnig y cyfle i weld un neu fwy o’n hartistiaid rhyngwladol berfformio mewn lleoliad anffurfiol ac agosatoch.

Y ffi am Aelodaeth Gymwynaswr yw £250 yn unig. Lleiafswm yw hwn ac mae croeso bob amser i roddion ychwanegol.