18 Chwefror 2021

Pleser o’r mwyaf i MOMA Machynlleth yw cyhoeddi bod yr artist adnabyddus Mary Lloyd Jones wedi rhoi un o’i phaentiadau mawr i Gasgliad y Tabernacl.

Crëwyd y paentiad olew o’r enw ‘Mwyn Disglair’ yn 2004 ac mae’n mesur 153 cm x 183 cm.

Ganed yr artist a’r gwneuthurydd printiau, Mary Lloyd Jones, ym Mhontarfynach ym 1934. Hyfforddodd yng Ngholeg Celf Caerdydd ac erbyn hyn mae’n byw yn Aberystwyth.

Wrth sôn am ei gwaith, meddai, “Fy nod yw adlewyrchu fy hunaniaeth, fy mherthynas â’r tir, yr ymwybyddiaeth o hanes a thrysor ein traddodiadau llenyddol a llafar.

Mae hyn wedi arwain at fy niddordeb yng ngwreiddiau iaith, marciau cynnar y mae pobl wedi’u gwneud a’r Wyddor Ogam a’r Coelbren.”

Yn 2016, derbyniodd Mary Wobr Glyndŵr yng Ngŵyl Machynlleth am Gyfraniad Arbennig i’r Celfyddydau yng Nghymru. Fe’i cynrychiolir gan Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd.