3 Mawrth 2020

Ar adeg pryd mae mwy o ffoaduriaid trwy’r byd yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi, mae arddangosfa nodedig sy’n olrhain cyfraniad arlunwyr i’r byd celf ym Mhrydain ers 1870 hyd at heddiw yn dod i’r Amgueddfa Gelf Fodern (MOMA) yn Machynlleth.

Mae’r arddangosfa fwyaf uchelgeisiol yn hanes MOMA Machynlleth wedi’i datblygu mewn partneriaeth ag Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr ac mae’n dwyn ynghyd gweithiau pwysig o gasgliadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys Y Tate, V&A, Oriel Gelf Ben Uri, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Disgwylir i filoedd o bobl ymweld â’r arddangosfa yn yr oriel, gafodd ei henwi yn ddiweddar gan Y Guardian fel un o’r 10 oriel gelf wledig orau ym Mhrydain.

Mae’r arddangosfa, sy’n cynnwys dros 70 o weithiau celf ar draws pedair oriel, yn edrych yn ôl dros y 150 mlynedd diwethaf i archwilio sut roedd artistiaid mudol yn cael eu gweld gan eu cyfoedion ym Mhrydain a sut roedd eu dylanwad yn cyffroi neu’n ysbrydoli celf newydd. Mae hefyd yn ystyried alltudiaeth dros dro ffoaduriaid o ryfeloedd Franco-Prwsia a’r Rhyfel Byd Cyntaf a dylanwad hanfodol ffoaduriaid a ddaeth o ddwyrain a chanol Ewrop yn ystod y 1930au a’r 1940au, ac hefyd yn edrych ymlaen at y presennol pryd mae derbyn ffoaduriaid o ryfeloedd Iran, Irac a Syria a’u cyfraniadau hwy i fywyd Prydain i weld yn fwy dadleuol nag erioed. Mae’n adrodd straeon rhyfeddol a theimladwy o ddianc rhag dadfeddiannu, erledigaeth, gormes deallusol a rhyfel ynghyd â chydweithio hynod ddiddorol ag artistiaid o Brydain. Ymhlith yr artistiaid sydd wedi’u cynnwys yn yr arddangosfa mae’r Ffrancwyr Claude Monet a Camille Pissarro a geisiodd loches rhag y Rhyfel Franco-Prwsia; artistiaid a ddaeth i Brydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel Lucien Pissarro, George Minne a Valerius de Saedeleer ac artistiaid Prydeinig a’u helpodd megis WR Sickert a Frank Brangwyn. Yn ganolog i’r Arddangosfa mae effaith anhygoel ffoaduriaid o Ewrop adeg dominyddiaeth y Natsïaid, sy’n cael ei gyfleu trwy weithiau gan Naum Gabo, Kurt Schwitters, Barbara Hepworth, Ben Nicholson, Peter Lanyon, Josef Herman, Heinz Koppel, y ffotograffwyr Edith Tudor-Hart a Bill Brandt a’r animeiddiwr Lotte Reiniger. Ymhlith yr artistiaid mwy diweddar a gynrychiolir mae Josef Koudelka, Samira Kitman, Hanaa Malallah a Mona Hatoum.

Medd curadur gwadd yr arddangosfa, Dr Peter Wakelin,

“Flynyddoedd yn ôl cefais fy nhyfareddu gan straeon dau artist a ddihangodd i Brydain o Ewrop adeg y Natsïaid, sef Josef Herman o Wlad Pwyl a Heinz Koppel o’r Almaen, ac fe gafodd y ddau ddylanwad sylweddol yma. Mae wedi bod yn fraint cael gweithio ar yr arddangosfa hon a’r llyfr cysylltiedig ac edrych yn ôl dros 150 mlynedd i gael persbectif gan Monet hyd at Mona Hatoum. Mae ffoaduriaid wedi gwneud cyfraniadau rhyfeddol ym mhob cefndir – meddygaeth, gwyddoniaeth, cyhoeddi, busnes, cerddoriaeth yn ogystal â chelf. Yn hanesyddol mae adegau wedi bod pan nad yw cyfoedion y ffoaduriaid hyn wedi ymgysylltu â nhw yn llwyr, felly gobeithio bod yr arddangosfa’n amgrymu gwersi defnyddiol ar gyfer y dyfodol hefyd”

Mae llyfr lliw llawn wedi ei gyhoeddi gan Sansom a’i Gwmni i gydfynd gyda Lloches a Bywyd Newydd: Ymfudo a Chelfyddyd Gwledydd Prydain a fydd ar werth yn ystod yr arddangosfa.

Bydd sgwrs amser cinio gan Dr Peter Wakelin yn cael ei chynnal am 1yp ddydd Mercher 8 Ebrill, a bydd seminar sy’n dod â siaradwyr arbenigol ynghyd i archwilio themâu’r arddangosfa ar ddydd Sadwrn 9 Mai. Mae Lloches a Bywyd Newydd: Ymfudo a Chelfyddyd Gwledydd Prydain ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 10am i 4pm, rhwng 14 Mawrth a 6 Mehefin 2020. Mae mynediad am ddim. Cefnogir yn hael gan Gronfa Richard ac Ann Mayou, Ymddiriedolaeth Elusennol Teulu Lambert a Chyfeillion y Tabernacl. Rhan o Ŵyl Insiders / Outsiders (www.insidersoutsidersfestival.org), gŵyl gelf ledled y wlad sy’n dathlu ffoaduriaid o Ewrop adeg y Natsïaid a’u cyfraniad at ddiwylliant Prydain.

Cyswllt:

Emily Bartlett, MOMA Machynlleth, 01654 703355

Dr Peter Wakelin, curadur gwadd, 07910 518042