Mae’r Amgueddfa Celf Fodern, Machynlleth (MOMA, Machynlleth) yn rhan o Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth, a sefydlwyd ar 18 Mawrth 1986 fel cwmni elusennol wedi’i gyfyngu trwy warant. I ddechrau, roedd ei weithgareddau wedi’u cyfyngu i hyrwyddo cyngherddau yn yr hen gapel Wesleaidd ar ei newydd wedd, yn bennaf trwy Ŵyl flynyddol yn cychwyn ym mis Awst 1987 ac mae’n parhau bob blwyddyn ers hynny. Ar yr un pryd dechreuodd yr Ymddiriedolaeth adeiladu casgliad parhaol o weithiau celf a sefydlwyd MOMA, Machynlleth (MOMA, Cymru i ddechrau) ym 1991. Mae’r ymddiriedolaeth wedi goruchwylio sawl datblygiad dros y blynyddoedd, gan arwain at y safle bresennol sy’n cynnwys awditoriwm a ddefnyddir yn helaeth a sawl gofod arddangos o ansawdd uchel.

 

Mae MOMA Machynlleth yn cynnal gweithgareddau diwylliannol trwy gydol y flwyddyn ochr yn ochr â’r rhaglen arddangos celf gan gynnwys:

 

  • Gŵyl Machynlleth sy’n dathlu diwylliant traddodiadol Cymru ynghyd â jazz, cerddoriaeth glasurol ac artistiaid rhyngwladol.
  • gweithgareddau diwylliannol, a hyrwyddir yn annibynnol, gan gynnwys llenyddiaeth, dosbarthiadau Cymraeg a dosbarthiadau iaith eraill, dosbarthiadau celf, darlithoedd, cyfarfodydd cyhoeddus a Gŵyl Gomedi Machynlleth.

 

Derbyniwyd achrediad llawn gan MALD ym mis Ionawr 2016 ac mae arddangosfeydd yn denu diddordeb cenedlaethol a rhyngwladol, yn aml yn cynnwys artistiaid blaenllaw o Gymru a gweithiau o gasgliad y Tabernacl.


Cefnogwch ni

Helpwch ni i barhau i rannu arddangosfeydd a digwyddiadau o’r radd flaenaf.

Cael gwybod sut