Mae MOMA Machynlleth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyffrous i gyhoeddi pwrcas gan y Llyfrgell o 4 gwaith gan Morgan Dowdall, Ayesha Khan, Gwenno Llwyd Till ac Abby Davies o ail arddangosfa arloesol flynyddol Artisiaid Ifainc Cymru / Young Welsh Artists.
 
 

Mae Morgan Dowdall yn defnyddio’r ffigwr dynol i archwilio themâu cwiar, camp, gwrthrycholi, agosatrwydd a dysmorffia.Trwy’r rhain, maent yn ymestyn estheteg cwiar ac yn ceisio gwyrdroi cynrychioliadau cyrff rhywedd a welwyd trwy gydol hanes www.instagram.com/mdoodlee www.instagram.com/mdoodlee
 
 

Mae Ayesha Khan yn mynd i’r afael â chamddarlunio menywod Mwslimaidd yn y cyfryngau. Yn ei gwaith mae’n darlunio menywod Mwslimaidd pwerus, fel ymateb uniongyrchol i ystrydebau Mwslimaidd negyddol fel y’u gwelir mewn delweddaeth cyfryngau o bob math. www.instagram.com/mwmuslimwomen
 
 

Mae Gwenno Llwyd Till yn ei ail blwyddyn yn astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Celf Llundain (University Arts London), LCC. Mae ei Chymreictod yn hynod bwysig i Gwenno. Yn ei gwaith mae’n ceisio ennyn gwerthfawrogiad o iaith a diwylliant Cymru. www.instagram.com/gwennofilm
 
 

Mae Abby Davies yn creu celf yn seiliedig ar ei ffyrdd gweledol a cherfluniol unigol o feddwl. Mae gan ei gwaith naratif hunan-fyfyriol a sgyrsiol sydd yn caniatáu i’r gwyliwr fod yn rhan o’i chelf yn ei ffordd oddrychol ei hun. www.instagram.com/orange_tree_art