Ymweld â’r Casgliad

Mae Oriel y Tanerdy ym MOMA Machynlleth wedi’i neilltuo’n barhaol i ddangos rhaglen dreigl o arddangosfeydd sy’n cynnwys gweithiau o Gasgliad y Tabernacl.

Gweithiau nad ydynt ar ddangos:

Os ydych am weld gwaith o’n casgliad nad yw ar ddangos ar hyn o bryd, cysylltwch a ni i drefnu hyn.

Dylech gynnwys eich enw, teitl ac artist y gwaith dan sylw a’r dyddiad rydych chi am ymweld. Cysylltwch â ni bythefnos fan leiaf cyn dyddiad eich ymweliad arfaethedig.

Benthyca:

Mae MOMA Machynlleth yn croesawu ceisiadau gan orielau a sefydliadau eraill i fenthyca gweithiau o Gasgliad y Tabernacl ar gyfer arddangosfeydd.

Cysylltwch a ni gan roi gwybod i ni enw’r sefydliad sy’n benthyca, y gwaith neu’r gweithiau rydych chi am eu benthyca a throsolwg byr o’r arddangosfa a’r dyddiadau dan sylw a byddwn yn hapus trafod hyn â chi ymhellach.

Gall ffioedd benthyca fod yn berthnasol. Mae holl bolisïau’r amgueddfa hefyd ar gael i’w gweld ar gais.

Dewch draw!

Ymdrwythwch yn ein hamrywiaeth eang o arddangosfeydd, cyngherddau a digwyddiadau. O’r celfyddydau gweledol i wyliau comedi a cherddoriaeth glasurol, mae yna ddigon i chi ei ddarganfod.

Darllen mwy