Un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous ym myd celf yng Nghymru, bwriad arddangosfa gyntaf Artistiaid Ifainc Cymru yw rhoi sylw i waith artistiaid o dan 30 oed sy’n gweithio yng Nghymru.

Wedi’i lansio ym mis Tachwedd 2020, cynhelir yr arddangosfa yn flynyddol ym mis Tachwedd a Rhagfyr yn MOMA Machynlleth.

Nod yr arddangosfa yw cyflwyno artistiaid o bob cwr o Gymru i’w gilydd a darparu llwyfan i artistiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd i arddangos eu gwaith yn yr oriel y tu hwnt i leoliad ysgol/coleg celf.

Mae dau egin guradur gwadd, Mari Elin Jones a Lloyd Roderick, wedi’u gwahodd i lwyfannu’r arddangosfa.

Curadur, artist ac awdur yw Mari Elin Jones sy’n ymddiddori ym mhob agwedd ar ddiwylliant Cymru a’r amgylchedd. Mae’n gweithio fel curadur yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru er 2013 ac mae wedi bod yn allweddol wrth gynnal arddangosfeydd pwysig fel Distillation (Shani Rhys James 2015), Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch (Philip Jones Griffiths, 2015), Mametz (Aled Rhys Hughes, 2016) a Kyffin Williams, Tu Ôl i’r Ffrâm (2018).

Ymchwilydd a churadur yw Lloyd Roderick sydd â diddordeb yn niwylliant gweledol Cymru. Mae wedi cyhoeddi yn O’r Pedwar Gwynt ac Art Libraries Journal. Bu’n curadu ei arddangosfa gyntaf, Ailymweld â Chymru a’r Mudiadau Modern a edrychai ar ddulliau modernaidd yng Nghymru yn yr 20fed ganrif, yn Ysgol Gelf Aberystwyth yn haf 2019.

Twitter: @aic_ywa

Instagram: @aic_ywa