GALWAD AGORED

Gwybodaeth Bwysig

Ffurflen y Galwad Agored: Cliciwch Yma

Lawrlwythwch y pdf gwybodaeth: Cliciwch Yma

Dyddiad Cau’r Alwad Agored: 28.09.25 23:59
Dyddiad Dethol: 20.10.25
Dyddiad Casglu’r Gwaith Celf: 17.11.25 & 18.11.25
Agoriad yr Arddangosfa: 22.11.25
Dyddiadau’r Arddangosfa: 22.11.25 – 31.01.26

Mae MOMA Machynlleth yn cyffroes i gyhoeddi’r galwad agored am Arddangosfa Artistiaid Ifainc Cymru 2025. Bwriad yr arddangosfa flynyddol yma yw cefnogi artistiaid yn eu gyrfa gynnar o ar draws Cymru i ddangos gwaith newydd mewn oriel broffesiynol. Rydym yn croesawu ceisiadau o artistiaid gweledol o Gymru neu wedi lleoli yng Nghymru, oed 30 neu o dan. Blwyddyn yma bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yn Oriel Owen Owen ac Oriel y Bont rhwng 22ain o Dachwedd 2025 a’r 31ain o Ionawr 2026.

Telerau ac Amodau:

Mae gwneud cais ar gyfer y galwad agored yma am ddim.

Bydd MOMA Machynlleth yn talu’r holl gostau arddangosfa, gan gynnwys trefnu cludiant y gweithiau celf (bydd rhaid i’r gwaith cael ei gasglu o gyfeiriad post yng Nghymru). Rhaid i’r gwaith fod ar gael i’w gasglu ar y 17.11.25 neu 18.11.25 (yn dibynnu ar eich lleoliad )
Ni fydd ffi artist yn cael i gynnig am gymryd rhan yn yr arddangosfa, ond rydym yn annog artistiaid i werthu eu gweithiau, a byddwn yn cynnig cymorth gyda’r broses yma. Bydd MOMA Machynlleth yn cymryd 25% o’r pris gwerthu ar gyfer pob gwaith celf a werthir.

Bydd disgwyl i’r artistiaid sydd wedi cael i ddethol i gymryd rhan ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r arddangosfa.

Bydd y gweithiau celf a arddangosir yn cael eu dewis gan guraduron AIC/YWA. Bydd pob artist yn cael gwybod os ydynt wedi cael eu cynnwys yn yr arddangosfa erbyn 20 Hydref.
Dyddiad Cau’r Galwad Agored – Dydd Sul, 28 Medi, Hanner Nos.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais, e-bostiwch aic.ywa@gmail.com