Darlith ddarluniadol lle y bydd David Elias yn myfyrio am yr hyn a ddysgodd wrth ysgrifennu ei lyfr hynod lwyddiannus, Shaping the Wild, a oedd yn archwilio materion yn ymwneud â ffermio a chadwraeth ar un fferm benodol yn Eryri.  Yn y ddarlith, bydd yn ystyried dimensiynau diwylliannol a gwleidyddol, yn ogystal â bywyd gwyllt a chadwraeth, gan gynnwys datblygiadau mwy diweddar.

Mae David wedi bod yn naturiaethwr ers ei blentyndod, a bu’n gweithio ym maes cadwraeth natur am bron i 30 mlynedd.  Daeth i Gymru am y tro cyntaf ym 1975 a bu’n byw yn Llanuwchllyn ger y Bala am 35 mlynedd wedi hyn, cyn symud i Fachynlleth yn 2019.  Ers ei waith ar Fynyddoedd y Berwyn yn ystod y 1980au, mae David wedi cynnal ei ddiddordeb brwd yn y ffordd y gall bywyd gwyllt a ffermio gyd-fodoli ar ucheldir Cymru.

Drysau yn agor am 7pm