Mae Tocyn Tymor Gŵyl Machynlleth yn eich galluogi i gael mynediad i holl ddigwyddiadau’r Ŵyl o dan un Tocyn.

Gyda Thocyn Tymor gallwch archebu sedd yn Awditoriwm y Tabernacl ar gyfer wythnos gyfan yr Ŵyl.

Trwy brynu fel hyn gallwch arbed hyd at £91.00 ar bris tocynnau unigol, a sicrhau mynediad blaenoriaethol i holl ddigwyddiadau’r ŵyl. Ewch i’n tudalen Gŵyl am ragor o wybodaeth am y rhaglen lawn.

Unwaith y byddwch wedi prynu eich Tocyn Tymor bydd aelod o dîm yr Ŵyl mewn cysylltiad i’ch helpu i ddod o hyd i’ch sedd berffaith.

Trwy brynu eich tocyn rydych yn cytuno i’n telerau ac amodau.