Dyma flwyddyn arbennig i Gymdeithas yr Engrafwyr Pren gan eu bod yn dathlu eu canmlwyddiant.

Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1920 gan artistiaid oedd yn cynnwys Eric Gill, Gwen Raverat, Robert Gibbings, Philip Hagreen a Lucien Pissarro. Golygai toriad yn ystod blynyddoedd y rhyfel ac eto wedyn yn y 1970au fod yr arddangosfa flynyddol wedi’i hatal am sbel, ac felly hon fydd yr 82ain sioe. Ers ei hadfywiad ym 1984, mae’r Gymdeithas wedi meithrin enw da am ragoriaeth, gan ddenu arddangoswyr a chasglwyr o bedwar ban byd.

Diben y Gymdeithas yw hyrwyddo engrafu pren, ond mae hefyd yn coleddu pob ffurf ar argraffu cerfweddol sy’n golygu bod y sioe hon yn gasgliad hynod a fforddiadwy o ddelweddau a ysbrydolwyd gan amrywiaeth eang o destunau.