Mae Roan/m yn arddangosfa cyfrwng cymysg o sgrinluniau, ffotograffau, tecstilau a ffilm gan yr artist SLQS.

Mae’r sioe wedi deillio o ddau waith perfformio SLQS: ‘Find.ers.Keep.ers’ ac ‘Áo dai’. Mae’r cyntaf yn taflu goleuni ar y bygythiad y bydd llwybrau ceffylau yn cael eu dileu yn y DU. Mae’r olaf yn herio cynrychiolaeth amrywiaeth yn nhirwedd Prydain a Chymru.

Mae SLQS yn creu ac yn perchnogi gofod gwledig fel dynes, person o dreftadaeth gymysg, tramorwr, mam, artist a marchogwr. Mae hi’n gweithio i ddad-drefoli gorchmynion gofodol gan strwythurau imperialaidd, rhywiaethol a hiliol. Trwy gyfres o berfformwyr, mae ei gwaith yn cwestiynu syniadau am hawliau crwydro, hawliau tir ac amrywiaeth yn y byd marchogaeth.

Fel artist Ffranco-Fietnameg a marchog trefol sy’n byw yn Nwyrain Llundain, mae’n ymgolli yng nghefn gwlad Prydain a Chymru gan newid lliw ei thirwedd.

Curadir Roan/m gan Gudrun Filipska o (Arts) Territory Exchange