Cymru | 2022 | 90’ | cynghorir 15 | Kevin Jones | Keiron Self, Lynne Seymour, Richard Ellis, Kev McCurdy, Elin Phillips, Francois
Pandolfo

Efallai bod YouTube a TikTok yn teimlo fel cyfrwng i bobl ifanc, ond nid i Martin Decker, sydd yn ei bumdegau. Mae wedi dechrau gyrfa newydd sbon fel seren ar y rhyngrwyd. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi bod yn creu sioeau teledu yn ei ystafell ymolchi gartref. Ond er gwaetha’i honiadau fod ei deulu’n gwbl gefnogol, mae ei fywyd yn chwalu. Mae bellach yn destun ffilm sy’n rhannol ffilm ddogfen, ac yn rhannol gomedi drasig swreal. Gyda mynediad llawn at ei holl fideos, cyfweliadau cefnogwyr a beirniaid, ffilmiau a ganfuwyd ac animeiddiadau hyd yn oed, rydyn ni’n ymchwilio i gymhellion ac awydd creadigol Martin. Mae ganddo’r angen i wneud cysylltiad, ond pwy yw ei darged go iawn – ei gefnogwyr neu ei deulu? Yn cynnwys llu o dalent actio Cymreig, bydd hwn yn brofiad unigryw gan y bydd Martin yn y dangosiad i gyflwyno’r ffilm ei hun os oes unrhyw un am ei holi am ei ddawn sinematig athrylithgar.

“Roedd Orson Welles yn 25 oed pan greodd Citizen Kane. Dw i dros hanner cant oed, felly bydd fy ffilm o leiaf ddwywaith cystal.” – Martin Decker.

Tocynnau sinema ar gael wrth y drws o 6pm (cerdyn neu arian parod)