Amser maith yn ôl, byddai’r bas dwbl yn grwnan y tu ôl i’w gymheiriaid llinynnol yn y gerddorfa gan obeithio am ryw ennyd ogoneddus fer. Digon prin oedden nhw! Fodd bynnag, mae cenhedlaeth newydd o fasyddion, dan arweiniad chwaraewyr fel Leon Bosch wedi achub eu hofferyn o ddewis o’r cysgodion, gan chwilota am repertoire anghofiedig a chomisiynu gwaith newydd i’r cawr llinynnol yma. Cyflwynodd Bosch y perfformiad cyntaf o Pueblo, a gomisiynwyd ganddo oddi wrth John McCabe, a gweithiau gan Allan Stephenson a dau gyfansoddwr o Dde Affrica ei febyd, Hendrik Hofmeyr a Paul Hanmer. Bydd Leon Bosch yn siarad â Christopher Cook am dyfu i fyny fel cerddor ifanc yn Ne Affrica o dan Apartheid, chwarae gydag Academi St Martin’s in the Fields ac erbyn hyn ddysgu cenhedlaeth newydd o chwaraewyr bas dwbl.