Cynhyrchwyd y corff hwn o waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae yna o leiaf ddwy neu dair thema ar waith. Mae’r paentiadau’n cynnwys elfennau o fywyd llonydd a thirwedd, i gyd wedi’u hadeiladu o amgylch pynciau y mae Kim yn eu hadnabod yn dda; mae hi’n ymgyrraedd at adrodd straeon yn y paentiadau, gan gasglu gwrthrychau at ei gilydd sy’n golygu rhywbeth iddi, ac sy’n ymwneud â lle neu amser penodol.
“Dwi wedi fy ysbrydoli gan fy nghynefin gwledig – dwi’n gwerthfawrogi’r cyswllt uniongyrchol hwnnw â byd natur; mae brasluniau wedi’u llenwi â theithiau cerdded, trychfilod, cymylau, effemera naturiol, ac ati. Mae patrymau a gweadau’n swyno: croen melfedaidd eirin gwlanog, plygiadau tonnog ochr bryn pell, sglein llyfr sydd wedi’i fodio’n helaeth …. Mae gan bopeth ei stori i’w hadrodd”.

Mae un gyfres o waith yn cael ei hadeiladu o amgylch hetiau a chychod – y ddau yn amddiffynnol yn eu ffordd eu hunain; mae het i Forfa Dyffryn, het i Lanbedrog, cwch i Bogwood, ymhlith eraill.

Mae llawer o ddarnau o waith yn ymwneud â’n perthynas â byd natur; rydym yn cofleidio natur, rydym yn archwilio’r rhyfeddodau a’r posibiliadau sy’n rhan o’r blaned ryfeddol hon, ac yna mae’n ymddangos bod ein hangen i wneud elw yn cymryd drosodd. Mae rhai paentiadau yn llawn gobaith, yn ddathliadau o’r amrywiaeth a’r helaethrwydd o’n cwmpas, tra bod eraill yn llawn anobaith!