Mae’r sgwrs yma’n rhoi cefndir dethol yr arddangosfa ym MOMA Machynlleth. Mae’r sioe’n cynnwys gwaith gan 27 o artistiaid y mae Jill wedi’u nabod a’u harddangos dros flynyddoedd lawer. Mae’r gweithiau’n amrywiol iawn ac yn cynnwys cerameg, gwaith wedi’i bwytho a cherfluniaeth yn ogystal â phaentiadau ffigurol a haniaethol.

Curadur ac awdur yw Jill Piercy sy’n arbenigo mewn celfyddyd weledol gyfoes yng Nghymru. Mae wedi curadu arddangosfeydd i orielau yng Nghymru ac Ewrop ac am chwe blynedd hi oedd Swyddog Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae’r cofiant Brenda Chamberlain – Artist and Writer a llawer o draethodau catalogau ac erthyglau i gylchgronau.

Archebwch docyn i’r sgwrs hon trwy’r tudalen Saesneg (Cliciwch y ddolen yn y dde uchaf)