Cipolwg hynod ddiddorol ar fyd gwisgoedd traddodiadol Cymru, sy’n olrhain eu taith dros ddwy ganrif, o steil a gafodd ei wisgo gan fenywod gweithio gwledig, i gael ei feddiannu fel ‘gwisg cenedlaethol’ gan fenywod dosbarth canol ac uwch.

Caiff y ddarlith ei harwain gan Michael Freeman, arbenigwr cydnabyddedig yn y maes, a  fu gynt yn guradur Amgueddfa Ceredigion Aberystwyth.