Nathan Isaac (clarinét unawd)
Ewan Wright (sacsoffon unawd)
Laurie Edwards (trwmped unawd)

yn ymddangos trwy ganiatâd caredig Conservatoire Brenhinol Birmingham

Yn addas i’r teulu cyfan, mwynhewch y perfformiad yma o’r Ŵyl am ddim yn yr awyr agored ar ddiwrnod y farchnad ym Machynlleth.

Ar hyn o bryd yn astudio yn Ysgol Gerdd Frenhinol Birmingham, bydd y cerddorion dawnus Cymreig ifainc, Nathan Isaac, Ewan Wright a Laurie Edwards yn ein diddanu gydag amrywiaeth o gerddoriaeth i’r clarinét unawd, sacsoffon unawd a thrwmped unawd.

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gyfeillion y Tabernacl.
Tocynnau:

Digwyddiadau ‘naid’ yw ein perfformiadau yn yr awyr agored a gynhelir ar adegau rheolaidd o gwmpas y dre. Does dim angen rhagarchebu, er y dylech nodi efallai y bydd angen i ni reoli nifer y bobl sy’n ymgynnull i wylio’r rhain, yn unol ag unrhyw gyfyngiadau pellter cymdeithasol a chapasiti a all fod yn eu lle ar y pryd.

Gwybodaeth am yr Ŵyl:

Cael gwybod mwy am Ŵyl Machynlleth a darllen ein Cwestiynau Cyffredin yn ei chylch.

Gweld Gwybodaeth