Celciau, Bryngaerau a Darganfod: Datgelu tirweddau’r Oes Haearn a Rhufeinig Cadair Idris a Bae Ceredigion
Dr Toby Driver FSA

Ar drothwy goresgyniad Cymru gan y Rhufeiniaid, roedd arfordir gorllewinol Bae Ceredigion wedi’i anheddu gan  gymunedau bywiog yr Oes Haearn oedd yn ymwneud â’r byd ehangach drwy gysylltiadau masnach ar y môr. Roedd bryngaerau enfawr â’u hamddiffynfeydd aruthrol a soffistigedig yn tra-arglwyddiaethu dros fryniau a dyffrynnoedd gogledd Ceredigion a de Meirionnydd. Roedd metelau wedi’u mwyngloddio yma ers yr Oes Efydd. Ceir ambell gip ar fannau cysegredig yn y rhanbarth yma yn sgil hap-ddarganfyddiadau rhyfeddol: casgliad o dariannau a ffitiadau cerbydau a ddarganfuwyd ar lethrau anghysbell Cadair Idris yn y 1960au a llwyau dewiniaeth prin a gloddiwyd o fryngaer arfordirol yng Ngheredigion.

Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid ar yr arfordir gorllewinol yng nghanol y 70au ÔC, gyda llu goresgynnol yn mynd ati’n gyflym i godi rhwydwaith o gaerau a ffyrdd yn ei sgil. Bydd y ddarlith hon yn edrych ar gynhysgaeth ryfeddol cymunedau’r Oes Haearn ym Mae Ceredigion; sut roeddent yn byw, yn gweithio ac yn marw a sut y newidiodd eu byd yn dilyn y goncwest Rufeinig.

Dr Toby Driver yw Prif Ymchwilydd yr Arolwg o’r Awyr i Gomisiwn Brenhinol Cymru ac yn ymchwilydd ar brosiect 6-blynedd Iwerddon-Cymru, CHERISH, a ariennir gan yr UE ac sy’n edrych ar newid hinsawdd a threftadaeth arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon. Mae Toby wedi ysgrifennu a darlithio’n helaeth am fryngaerau’r Oes Haearn ac archaeoleg Cymru gan gyd-gyfarwyddo’r cloddio yn fila Rufeinig Abermagwr. Mae’n un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Archaeoleg Cambria ac yn Gymrodor gyda Chymdeithas Hynafiaethau Llundain. Cyhoeddwyd ei seithfed gyfrol, The Hillforts of Cardigan Bay, yn 2016 ac fe’i hail-argreffir yn 2021.

Twitter: @Toby_Driver1
Cael Tocynnau:

Ein gobaith yw y bydd yn bosibl croesawu aelodau’r gynulleidfa i’r Tabernacl ar gyfer y digwyddiadau byw a gynhelir yno. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, fe ymddengys oherwydd cadw pellter cymdeithasol efallai y bydd niferoedd y gynulleidfa’n llai nag arfer. Bydd tocynnau felly yn cael eu dyrannu drwy raffl.

O 10yb ddydd Llun 12 Gorffennaf tan 4yp ddydd Llun 19 Gorffennaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn raffl ar gyfer tocynnau gan ddefnyddio’r botwm ‘YN MYND’ ar y dde.

Tocynnau £10

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein Cwestiynau Cyffredin am y raffl cyn i chi wneud cais am docynnau.

I’r rheini nad ydynt yn llwyddiannus wrth sicrhau tocynnau, byddant hefyd ar gael i wylio’r digwyddiad hwn ar-lein am 7.30yh nos Wener 13 Awst.

Darllen Mwy

Gwybodaeth am yr Ŵyl:

Cael gwybod mwy am Ŵyl Machynlleth a darllen ein Cwestiynau Cyffredin yn ei chylch.

Darllen Mwy