Celciau, Bryngaerau a Darganfod: Datgelu tirweddau’r Oes Haearn a Rhufeinig Cadair Idris a Bae Ceredigion
Dr Toby Driver FSA

Ar drothwy goresgyniad Cymru gan y Rhufeiniaid, roedd arfordir gorllewinol Bae Ceredigion wedi’i anheddu gan  gymunedau bywiog yr Oes Haearn oedd yn ymwneud â’r byd ehangach drwy gysylltiadau masnach ar y môr. Roedd bryngaerau enfawr â’u hamddiffynfeydd aruthrol a soffistigedig yn tra-arglwyddiaethu dros fryniau a dyffrynnoedd gogledd Ceredigion a de Meirionnydd. Roedd metelau wedi’u mwyngloddio yma ers yr Oes Efydd. Ceir ambell gip ar fannau cysegredig yn y rhanbarth yma yn sgil hap-ddarganfyddiadau rhyfeddol: casgliad o dariannau a ffitiadau cerbydau a ddarganfuwyd ar lethrau anghysbell Cadair Idris yn y 1960au a llwyau dewiniaeth prin a gloddiwyd o fryngaer arfordirol yng Ngheredigion.

Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid ar yr arfordir gorllewinol yng nghanol y 70au ÔC, gyda llu goresgynnol yn mynd ati’n gyflym i godi rhwydwaith o gaerau a ffyrdd yn ei sgil. Bydd y ddarlith hon yn edrych ar gynhysgaeth ryfeddol cymunedau’r Oes Haearn ym Mae Ceredigion; sut roeddent yn byw, yn gweithio ac yn marw a sut y newidiodd eu byd yn dilyn y goncwest Rufeinig.

Dr Toby Driver yw Prif Ymchwilydd yr Arolwg o’r Awyr i Gomisiwn Brenhinol Cymru ac yn ymchwilydd ar brosiect 6-blynedd Iwerddon-Cymru, CHERISH, a ariennir gan yr UE ac sy’n edrych ar newid hinsawdd a threftadaeth arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon. Mae Toby wedi ysgrifennu a darlithio’n helaeth am fryngaerau’r Oes Haearn ac archaeoleg Cymru gan gyd-gyfarwyddo’r cloddio yn fila Rufeinig Abermagwr. Mae’n un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Archaeoleg Cambria ac yn Gymrodor gyda Chymdeithas Hynafiaethau Llundain. Cyhoeddwyd ei seithfed gyfrol, The Hillforts of Cardigan Bay, yn 2016 ac fe’i hail-argreffir yn 2021.

Twitter: @Toby_Driver1
Tocynnau ar gael: 2 Awst

Anfonir dolen i wylio’r digwyddiad unwaith i chi brynu tocyn.

Gwybodaeth am yr Ŵyl:

Cael gwybod mwy am Ŵyl Machynlleth a darllen ein Cwestiynau Cyffredin yn ei chylch.

Darllen Mwy