Yn addas i’r teulu cyfan, mwynhewch y perfformiad yma o’r Ŵyl am ddim yn yr awyr agored ar ddiwrnod y farchnad ym Machynlleth.

Mae Cerys Hafana yn gerddor o Fachynlleth. Mae hi’n chwarae amrywiadau cyfoes o hen alawon a chaneuon Cymreig, yng nghyd â chyfansoddiadau gwreiddiol ar y delyn deires a’r piano. Mae hi hefyd yn aelod o Avanc (Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru). Rhyddhaodd ei halbwm cyntaf unigol, Cwmwl, yn 2020.

“Nid y delyn mewn gwers ysgol neu llwyfan eisteddfodol sydd yma. Nid darn mewn amgueddfa. Dyma gerddoriaeth gyfoes sydd yn rhoi cic anferthol i’r traddodiadol allan o unrhyw drwmgwsg parchus mae’r gwybodusion yn trio ei warchod.” – Rhys Mwyn, Herald Gymraeg

“Mae gan Cerys Hafana amser: amser i fynegi ei syniadau trwy gyfrwng ei hofferyn, amser i greu awyrgylch, amser i ddilyn ei dychymyg, ond yn bwysicach na hyn oll, amser i wneud i’r gerddoriaeth anadlu.” – Tomos Williams, O’r Pedwar Gwynt

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gyfeillion y Tabernacl.

Tocynnau:

Digwyddiadau ‘naid’ yw ein perfformiadau yn yr awyr agored a gynhelir ar adegau rheolaidd o gwmpas y dre. Does dim angen rhagarchebu, er y dylech nodi efallai y bydd angen i ni reoli nifer y bobl sy’n ymgynnull i wylio’r rhain, yn unol ag unrhyw gyfyngiadau pellter cymdeithasol a chapasiti a all fod yn eu lle ar y pryd.

Gwybodaeth am yr Ŵyl:

Cael gwybod mwy am Ŵyl Machynlleth a darllen ein Cwestiynau Cyffredin yn ei chylch.

Darllen Mwy