Dewch i gwrdd â seicig, plismon ac ysbryd sy’n hoff iawn o ymarfer corff mewn drama ddwyieithog newydd sydd yn delio gyda threialon y corff a’r enaid!

Mae Triongl yn gwmni theatr sy’n cynnwys ei dri aelod sefydlol, Valmai Jones, Rebecca Knowles a Rebecca Smith-WIlliams.
Fe ffurfiwyd Triongl ar ôl i’r dair gyfarfod fel actoresau llawrydd ar gydweithrediad gyda chwmni o Hong Kong i addasu stori fer gan George Orwell. Roeddent yn rhannu yr un syniadau am theatr a chymdeithas ac yn cydweithio yn dda gyda’u gilydd a greodd bartneriaeth berffaith.
Mae’r cwmni wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac yn Artistiaid Cyswllt Peilot gyda Chapter a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Triongl yn cydweithio i ddyfeisio gwaith newydd o theatr sy’n ymgysylltu â themâu cymdeithasol perthnasol mewn ffordd ysgafn.

70 munud (dim egwyl)
Canllaw Oedran 14+
Rhybuddion cynnwys: Cyfeiriadau at farwolaeth a galar, iaith gref.