Sylw ar hap mewn parti i blant a arweiniodd David Gepp at y llofnodion distaw hyn o dan ‘y Bont Haearn’ yng ngorsaf y Berwyn, Llangollen. Gan sychu ychydig o’r mwd oddi ar y wal, dyma ôl gwanllyd yn troi’n ‘James Candy… 23 Castle Street. Llangollen’. Yn frith o gwmpas ei lofnod yntau roedd rhai enwau a dyddiadau eraill o gyfnod y Rhyfel Mawr, pan oedd y milwyr ifainc hyn, yn cysgodi rhag y glaw yn ôl pob tebyg, wedi pasio’r amser wrth aros am y trên i fynd â nhw i’r Ffrynt.

Y gyfres hon o ffotograffau yw canlyniad ymweliadau niferus David â Llangollen i ddogfennu’r llofnodion a’r henebion.

Mae’r arddangosfa hon yn rhan o ŵyl ‘Art That Made Us’ y BBC i gyd-fynd â darllediad cyfres ddogfen newydd sy’n archwilio sut mae gweithiau celf, llenyddiaeth, dylunio a cherddoriaeth wedi helpu i lunio ein stori greadigol.